
2001 Rhif 1153 (Cy.60)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Caerdydd a'r Fro) (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2001
Wedi'i wneud 19 Mawrth 2001
Yn dod i rym 31 Mawrth 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan adran 9(1) ac (8) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 a phob pwer arall sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol yn y cyswllt hwnnw, ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, gyda chydsyniad y Trysorlys, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Caerdydd a'r Fro) (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 31 Mawrth 2001.
(2) Bydd y Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
Cyfalaf Cychwynnol Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol
2 
Cyfalaf cychwynnol Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Caerdydd a'r Fro fydd Cant naw deg pedwar miliwng, cant pedwar deg dau o filoedd o bunnoedd (£194,142,000).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Mawrth 2001Cydsyniwn,
Greg Pope
Jim Dowd
Dau o Arglwydd Gomisiynwyr Trysorlys Ei Mawrhydi
19 Mawrth 2001