
2001 Rhif 1111 (Cy. 55)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2001
Wedi'u gwneud 15 Mawrth 2001
Yn dod i rym 1 Medi 2001
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannnau 537(1) a (4) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996 ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl ymgynghori â'r personau hynny yr oedd yn ymddangos iddo fod ymgynghori â hwy yn ddymunol, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2001 a deaunt i rym ar 1 Medi 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999 fel a ganlyn.
(2) Ar ôl paragraff 14 o Atodlen 3 i'r Rheoliadau hynny mewnosodwch—“
14A 
Particulars of any special arrangements for the admission of disabled pupils to the school and for enabling such pupils to have access to any part of the school premises, together with particulars of any steps which have been taken to prevent disabled pupils from being treated less favourably than pupils who are not disabled.
14B 
Particulars of any policies adopted by the governing body of the school with respect to equal opportunities.
14C 
A description in general terms of the arrangements made for the security of the pupils and staff at the school and the school premises.
14D 
A summary of the provisions contained in the home-school agreement adopted by the governing body of the school under section 110(1) of the 1998 Act.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Mawrth 2001