
2001 Rhif 1076 (Cy. 52)
TALIADAU CYMUNEDOL, CYMRU
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau Taliadau Cymunedol, Y Dreth Gyngor ac Ardrethu Annomestig (Gorfodi) (Llysoedd Ynadon) (Cymru) 2001
Wedi'u gwneud 13 Mawrth 2001
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraffau 1 a 13(b) o Atodlen 4 a pharagraff 1 o Atodlen 9 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 1(1) a 13(b) o Atodlen 4 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a phob pŵ er arall sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol yn y cyswllt hwnnw ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Cymunedol, Y Dreth Gyngor ac Ardrethu Annomestig (Gorfodi) (Llysoedd Ynadon) (Cymru) 2001 .
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2001.
(3) Daw rheoliad 3 i rym ar y diwrnod y daw adran 90 (trosglwyddo swyddogaethau clercod i brif weithredwyr) o Ddeddf Cyfle i Gael Cyfiawnder 1999 i rym).
(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio'r Rheoliadau
2 

(1) Ym mhob un o'r darpariaethau y mae paragraff (2) yn gymwys iddi, yn lle “stipendiary magistrate” rhowch “District Judge (Magistrates' Courts)”.
(2) Dyma'r darpariaethau y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddynt:
(a) rheoliad 47(2) o Reoliadau Taliadau Cymunedol (Gweinyddu a Gorfodi) 1989;
(b) rheoliad 21(2) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989); ac
(c) rheoliad 53(2) o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992.
3 

(1) Ym mhob un o'r darpariaethau y mae paragraff (2) yn gymwys iddynt, yn lle “clerk of the court” rhowch “justices' chief executive for the court” ).
(2) Dyma'r darpariaethau y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddynt:
(a) rheoliad 52(4) o Reoliadau Taliadau Cymunedol (Gweinyddu a Gorfodi) 1989 ;
(b) rheoliad 23 (4) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989); ac
(c) rheoliad 57(3) o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Mawrth 2001