
2000 Rhif 992 (Cy. 52)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) (Cymru) 2000
Wedi'u gwneud 17 Mawrth 2000
Yn dod i rym 1 Ebrill 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 49(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 1997” yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) 1997.
Diwygiad
2 
Yn lle Rheoliadau 40, 41 a 42 o Reoliadau 1997 rhoddir—“
40 
A credit arrangement which is a private finance transaction shall be excluded from section 49(2) and the initial cost and the cost at any time of the arrangement shall be nil.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Mawrth 2000