
2000 Rhif 990 (Cy. 51)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Terfynau Gwariant Dewisol) (Cymru) 2000
Wedi'i wneud 27 Mawrth 2000
Yn dod i rym 1 Ebrill 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 137(4AA) a (5) ac adran 137A(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau eu bod yn arferadwy yng Nghymru.
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Terfynau Gwariant Dewisol) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000.
Terfynau gwariant
2 

(1) At ddibenion adran 137(4)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 pennir y swm o £5.00 fel y swm sy'n briodol ar gyfer prif gyngor neu gyngor cymuned yng Nghymru.
(2) At ddibenion adran 137A(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 pennir y swm o £5000 fel yr isafswm perthnasol ar gyfer cymorth ariannol a ddarperir gan awdurdod lleol yng Nghymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2000