
2000 Rhif 977 (Cy. 47 )
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) Diwygio (Cymru) 2000
Wedi'u gwneud 27 Mawrth 2000
Yn dod i rym 1 Ebrill 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 79A o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, a pharagraff 3(2) a 3(3) o Atodlen 12 iddi a phob pwer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw:–
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) Diwygio (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000.
(2) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) 1989
2 
Yn rheoliad 4 o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) 1989 (cyfrifo ffioedd), ym mharagraff (5), yn lle “£348” yn y ddau fan lle mae'n digwydd rhoddir “£354”.
Diddymu
3 
Diddymir drwy hyn Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) Diwygio 1999.
Darpariaethau Trosiannol
4 
Pan gyflenwir offer ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny, neu pan ddarperir gwasanaethau deintyddol cyffredinol eraill, yn unol â chontract neu drefniant i ddarparu gwasanaethau deintyddol cyffredinol a wnaed cyn y dyddiad hwnnw, bydd rheoliad 4(5) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) 1989 yn cael effaith mewn perthynas â'r cyflenwad hwnnw neu'r ddarpariaeth arall honno fel pe na bai'r Rheoliadau hyn wedi dod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2000