
2000 Rhif 973 (Cy. 43 )
TAI, CYMRU
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2000
Wedi'u gwneud 30 Mawrth 2000
Yn dod i rym 3 Ebrill 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 3(3) a (4), 30, 31(5) a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 ac a freiniwyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru bellach i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 3 Ebrill 2000.
Diwygiadau
2 
Mae'r diwygiadau a wnaed i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 gan Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Lloegr) 2000 (ac eithrio Rheoliadau 7, 9, 10 a 22(5)) a chan Reoliad 2 o Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio Rhif 2) (Lloegr) 2000 i gael effaith yng Nghymru mewn perthynas â cheisiadau am grant a wneir ar 3 Ebrill 2000 neu wedi hynny.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Mawrth 2000