
2000 Rhif 948 (Cy. 41)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Gorchymyn Dociau a Harbyrau (Gwerthoedd Ardrethol) (Cymru) 2000
Wedi'i wneud 31 Mawrth 2000
Yn dod i rym 1 Ebrill 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 140(4), 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988,a pharagraffau 3(1), (3) a (4) o Atodlen 6 iddi, sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru.
Cymhwyso, enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yw Gorchymyn Dociau a Harbyrau (Gwerthoedd Ardrethol) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “balans perthnasol” (“relevant balance”) mewn perthynas ag ymgymeriad a chyfnod yw 92.5 y cant o incwm perthnasol yr ymgymeriad hwnnw am y cyfnod, llai 100 y cant o'i wariant perthnasol am y cyfnod;
 ystyr “balans wedi'i addasu” (“adjusted balance”) mewn perthynas ag ymgymeriad a chyfnod yw 92.5 y cant o incwm wedi'i addasu yr ymgymeriad am y cyfnod llai 100 y cant o'i wariant wedi'i addasu am y cyfnod;
 ystyr “blwyddyn” (“year”), oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, yw blwyddyn ariannol daladwy; ac mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ystyr “blwyddyn flaenorol berthnasol” (“relevant preceding year”) yw'r flwyddyn yn diweddu yn union cyn y flwyddyn o dan sylw;
 ystyr “cyfnod” (“period”) mewn perthynas ag ymgymeriad yw'r cyfnod cyfrifydda y cyfeirir ato er mwyn llunio cyfrifon yr ymgymeriad;
 ystyr “gwariant perthnasol” (“relevant expenditure”) mewn perthynas ag ymgymeriad a chyfnod yw'r holl wariant a gynhwyswyd neu sydd i'w gynnwys yng nghyfrif refeniw neu gyfrif elw a cholled yr ymgymeriad am y cyfnod, p'un a yw'n deillio o'r gweithrediadau a gyflawnwyd o dan yr awdurdod y cyfeirir ato yn erthygl 3(1)(a) neu fel arall, heblaw —
(i) gwariant mewn perthynas ag arweiniad;
(ii) gwariant —
(a) mewn perthynas â buddsoddiadau y mae'n ofynnol eu dangos yng nghyfrifon yr ymgymeriad (heblaw gwariant mewn perthynas â buddsoddiadau mewn is-gwmnïau);
(b) y'n llogau sy'n daladwy mewn perthynas â benthyciadau neu wariant mewn perthynas â llogau o'r fath;
(c) sy'n daliadau ar gyfer rheoli eiddo sy'n cael ei osod allan ac sy'n hereditament neu sy'n ffurfio rhan o hereditament a ddangosir ar unrhyw restr ardrethu annomestig, neu wariant mewn cysylltiad â rheoli o'r fath;
(iii) gwariant a dynnir mewn perthynas â gwaredu tir; a
(iv) symiau a ddilëir mewn perthynas â dibrisiant.
 Ystyr “gwariant wedi'i addasu” (“adjusted expenditure”) mewn perthynas ag ymgymeriad a chyfnod yw swm gwariant perthnasol yr ymgymeriad am y cyfnod wedi'i luosi â chynnyrchPY;
 Ystyr “incwm perthnasol” (“relevant income”) mewn perthynas ag ymgymeriad a chyfnod yw'r holl incwm refeniw a gynhwyswyd neu sydd i'w gynnwys yng nghyfrif refeniw neu gyfrif elw a cholled yr ymgymeriad am y cyfnod, p'un a yw'n deillio o'r gweithrediadau a gyflawnir o dan yr awdurdod y cyfeirir ato yn erthygl 3(1)(a) neu fel arall, ond heb gynnwys —

(i) incwm mewn perthynas ag arweiniad;
(ii) incwm —
(a) o fuddsoddiadau y mae'n ofynnol eu dangos yng nghyfrifon yr ymgymeriad (heblaw buddsoddiadau mewn is-gwmnïau);
(b) benthyciadau neu adneuon;
(c) rhent neu daliadau eraill y gellir eu derbyn yn dâl am roi caniatâd i feddiannu neu i ddefnyddio unrhyw eiddo sydd gan yr ymgymeriad, neu hawl dros eiddo o'r fath, sy'n hereditament neu sy'n ffurfio rhan o hereditament a ddangosir ar unrhyw restr ardrethu annomestig;
(ch) unrhyw swm y gellir ei dderbyn mewn perthynas â gwaredu tir.
 ystyr “incwm wedi'i addasu” (“adjusted income”) mewn perthynas ag ymgymeriad a chyfnod yw swm incwm perthnasol yr ymgymeriad am y cyfnod hwnnw wedi'i luosi â chynnyrchPYa —
 P yw mynegai prisiau manwerthol Medi 1997, a
 Y yw mynegai prisiau manwerthol y mis Medi yn ystod y cyfnod o dan sylw, oni bai bod mis sylfaenol mynegai ar gyfer y mis Medi hwnnw yn wahanol i fis sylfaenol mynegai Medi 1997, ac os felly Y yw'r ffigur a gyfrifir at ddibenion paragraff 5(5) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 fel y ffigur y byddai mynegai'r mis Medi yn ystod y cyfnod wedi bod pe bai mis sylfaenol y mynegai wedi bod yr un fath yn y ddau achos;
 mae i “is-gwmni” yr ystyr a roddir i “subsidiary” gan adran 736 o Ddeddf Cwmnïau 1985;
Cymhwyso
3 

(1) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys, ac eithrio yn yr achosion a ddisgrifir ym mharagraffau (2) i (4):
(a) i unrhyw hereditament sy'n ymgymeriad doc neu harbwr a gyflawnir o dan awdurdod a roddir gan unrhyw ddeddfiad neu odano, a
(b) mewn perthynas â rhestr ardrethu annomestig (y “rhestr berthnasol”) a lunnir ar 1 Ebrill 2000 y mae hereditament o'r fath i fod i gael ei ddangos ynddi.
(2) Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys —
(a) os nad oedd incwm perthnasol yr ymgymeriad doc neu harbwr yn fwy na £1,000,000:
(i) mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeng mis yn diweddu yn ystod y flwyddyn yn diweddu â 31 Mawrth 1998, neu, os nad oes un,
(ii) yn y deuddeng mis yn diweddu â chyfnod sy'n diweddu yn y flwyddyn honno (ac os oes mwy nag un cyfnod o'r fath, yr un diwethaf), neu, os nad oes un,
(iii) yn y deuddeng mis yn diweddu ar 31 Mawrth 1998; neu
(b) os yw'r personau sy'n cyflawni'r ymgymeriad doc neu harbwr yn defnyddio'r doc neu'r harbwr yn unig neu yn bennaf er mwyn dod â nwyddau neu dderbyn nwyddau —
 a weithgynhyrchwyd neu a gynhyrchwyd ganddynt; neu
 sydd i'w defnyddio ganddynt i weithgynhyrchu neu i gynhyrchu nwyddau neu drydan; neu
 sydd i'w gwerthu ganddynt; neu
 a weithgynhyrchwyd neu a gynhyrchwyd gan gorff cysylltiedig, ac sydd i'w gwerthu gan y corff hwnnw.
(3) At ddibenion paragraff (2), trinnir corff fel corff cysylltiedig unrhyw bersonau —
(a) os yw'n gorff corfforaethol y mae'r personau hynny yn perchenogi neu'n rheoli yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol nid llai na 51 y cant o'i gyfalaf cyfranddaliadau a ddyroddwyd; neu
(b) os yw'n gorff corfforaethol y mae'r personau hynny ac unrhyw gorff neu gyrff cysylltiedig sydd ganddynt yn perchenogi neu'n rheoli yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol nid llai na 52 y cant o'i gyfalaf cyfranddaliadau a ddyroddwyd.
(4) Heblaw er mwyn cyfrifo incwm perthnasol neu wariant perthnasol, nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys i hereditament a feddiennir gan y personau sy'n cyflawni ymgymeriad doc neu harbwr nad yw yn dir gweithredol yn unig. Yn y paragraff hwn, ystyr “tir gweithredol” yw tir a ddefnyddir er mwyn cyflawni'r ymgymeriad, nad yw'n dir sydd, o ran ei natur a'i leoliad, i'w gymharu â thir yn gyffredinol yn hytrach nag â thir a ddefnyddir er mwyn cyflawni ymgymeriadau statudol (o fewn ystyr Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990).
Gwerthoedd ardrethol
4 

(1) Ni fydd paragraffau 2 i 2C o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn gymwys i unrhyw hereditament y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo; a phennir gwerth ardrethol unrhyw hereditament o'r fath yn unol â'r erthygl hon.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), bydd gwerth ardrethol unrhyw hereditament y mae'r gorchymyn hwn yn gymwys iddo am y flwyddyn yn dechrau ar 1 Ebrill 2000 yn swm sy'n gyfartal â 20 y cant o falans perthnasol yr ymgymeriad —
(i) am gyfnod o ddeuddeng mis yn diweddu yn ystod y flwyddyn yn diweddu â 31 Mawrth 1998, neu, os nad oes un,
(ii) am y deuddeng mis yn diweddu â chyfnod sy'n diweddu yn y flwyddyn honno (ac os oes mwy nag un cyfnod o'r fath, yr un diwethaf), neu, os nad oes un,
(iii) am y deuddeng mis yn diweddu â 31 Mawrth 1998.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) i (6), am unrhyw flwyddyn ddilynol y mae'r rhestr berthnasol yn effeithiol ar ei chyfer, bydd gwerth ardrethol unrhyw hereditament y mae'r gorchymyn hwn yn gymwys iddo yn swm sy'n gyfartal â 20 y cant o'r balans wedi'i addasu ar gyfer yr ymgymeriad —
(i) am gyfnod o ddeuddeng mis yn diweddu yn ystod y flwyddyn flaenorol berthnasol, neu, os nad oes un,
(ii) am y deuddeng mis yn diweddu â chyfnod sy'n diweddu yn y flwyddyn flaenorol berthnasol honno (ac os oes mwy nag un cyfnod o'r fath, yr un diwethaf) neu, os nad oes un,
(iii) am y deuddeng mis yn diweddu â'r flwyddyn honno.
(4) Os yw'r swm sy'n gyfartal â 20 y cant o X, mewn perthynas â blwyddyn ac ymgymeriad, yn fwy na 13 y cant o Z, ni fydd paragraff (2) neu, yn ôl fel y digwydd, paragraff (3), yn gymwys, a bydd y gwerth ardrethol am y flwyddyn honno yn gyfartal â 13 y cant o Z.
(5) Os yw'r swm sy'n gyfartal â 20 y cant o X , mewn perthynas â blwyddyn ac ymgymeriad, yn llai na 5 y cant o Z, ni fydd paragraff (2) neu, yn ôl fel y digwydd, paragraff (3) yn gymwys, a bydd y gwerth ardrethol am y flwyddyn honno yn gyfartal â 5 y cant o Z.
(6) Os byddai'r gwerth ardrethol a bennid o dan baragraff (3), neu, yn ôl fel y digwydd, paragraff (4) neu (5), mewn perthynas â blwyddyn yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2001 ac ymgymeriad, yn wahanol i'r gwerth ardrethol am y flwyddyn flaenorol berthnasol o ddim mwy nag 20 y cant o'r gwerth ardrethol hwnnw, ni fydd y paragraff o dan sylw yn gymwys, a bydd y gwerth ardrethol am y flwyddyn honno yr un fath â'r gwerth ardrethol am y flwyddyn flaenorol berthnasol.
(7) At ddibenion paragraffau (4) a (5) —
 X am y flwyddyn yn dechrau ar 1 Ebrill 2000 yw'r balans perthnasol ac am y blynyddoedd dilynol yw'r balans wedi'i addasu;
 Z am y flwyddyn yn dechrau ar 1 Ebrill 2000 yw'r incwm perthnasol ac am y blynyddoedd dilynol yw'r incwm wedi'i addasu;
 cyfrifir X a Z am y flwyddyn yn dechrau ar 1 Ebrill 2000 am y cyfnod a ddisgrifir ym mharagraff (2)(i) neu, os nad oes cyfnod o'r fath, am y cyfnod a ddisgrifir ym mharagraff (2)(ii) neu, os nad oes cyfnod o'r fath, am y cyfnod a ddisgrifir ym mharagraff (2)(iii);
 cyfrifir X a Z am y blynyddoedd dilynol am y cyfnod a ddisgrifir ym mharagraff (3)(i) neu, os nad oes cyfnod o'r fath, am y cyfnod a ddisgrifir ym mharagraff (3)(ii) neu, os nad oes cyfnod o'r fath, am y cyfnod a ddisgrifir ym mharagraff (3)(iii).
(8) Os byddai unrhyw werth ardrethol a bennid o dan yr erthygl hon yn cynnwys ffracsiwn o bunt (heblaw yn y paragraff hwn) —
(a) os byddai'r ffracsiwn yn fwy na 50c, câi ei godi i un bunt, a
(b) os byddai'r ffracsiwn yn 50c neu lai, câi ei anwybyddu.
Diddymiadau ac eithriadau
5 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), diddymir y canlynol drwy hyn —
Gorchymyn Dociau a Harbyrau (Gwerthoedd Ardrethol) 1989;
 Gorchymyn Dociau a Harbyrau (Gwerthoedd Ardrethol) (Diwygio) 1994.

(2) Bydd y Gorchmynion a grybwyllir ym mharagraff (1) yn parhau'n effeithiol ar ac ar ôl 1 Ebrill 2000 at y dibenion canlynol, ac at ddibenion sy'n gysylltiedig â hwy —
 unrhyw addasiad i restr ardrethu annomestig leol a lunnir cyn 1 Ebrill 2000; neu
 unrhyw ddarpariaeth a wneir gan reoliadau o dan adran 58 (darpariaeth arbennig ar gyfer 1995 ymlaen) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ynghylch y swm taladwy ar gyfer hereditament am gyfnod perthnasol fel y'i diffinnir yn yr adran honno.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998).
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
31 Mawrth 2000