
2000 Rhif 825 (Cy.31)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Cyfradd y Gostyngiad ar gyfer 2000/2001) (Cymru) 2000
Wedi'u gwneud 13 Mawrth 2000
Yn dod i rym 1 Ebrill 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 49(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 ac a freiniwyd ynddo bellach:
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Cyfradd y Gostyngiad ar gyfer 2000/2001) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000.
2 
7.5 y cant fydd cyfradd ganrannol y gostyngiad a ragnodir ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000 at ddibenion diffinio “r” yn adran 49(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Mawrth 2000