
2000 Rhif 719 (Cy.26)
HADAU, CYMRU
Rheoliadau Hadau (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) 2000
Wedi'u gwneud. 6 Mawrth 2000
Yn dod i rym. 7 Mawrth 2000
Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1) ac (1A)(e) o Ddeddf Hadau ac Isrywogaethau Planhigion 1964 ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), ac wedi ymgyngori, yn unol ag adran 16(1) y cyfeiriwyd ati uchod, â chynrychiolwyr y buddiannau hynny a ymddengys i'r Cynulliad Cenedlaethol yn berthnasol, mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud y Gorchymyn canlynol :
Enwi, cychwyn a chymwyso
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hadau (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) 2000, maent yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 7 Mawrth 2000.
Diwygio
2 
Ar ddiwedd Atodlen 6 i Reoliadau Hadau (Ffioedd)1985 mewnosoder y geiriau canlynol —“
C. Examination fees   

(i) Examination for crop inspector in respect of
— cereals,
— field beans, field peas and pulses, or
— grasses and herbage legumes,   
(a) examination Before the examination 142.80 (–)
(b) re-sit examination (other than cereals) Before the examination 142.80 (–)
(c) re-sit of either part of cereals examination Before the examination 71.40 (–)
(d) re-test Before the examination 71.40 (–)

(ii) Examination for crop inspector in respect of
— sugar beet, or
— Fodder and oil crucifers; turnips; fodder beet and mangels; flax and linseed; soya bean,   
(a) examination Before the examination 89.25 (–)
(b) re-sit of examination Before the examination 89.25 (–)
(c) re-test Before the examination 71.40 (–)

(iii) Examination for seed sampler Before the examination 89.25 (–)”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Dafydd Elis Thomas
Y Llywydd
6 Mawrth 2000