
2000 Rhif 718 (Cy.25)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Cymru) 2000
Wedi'u gwneud 8 Chwefror 2000
Yn dod i rym 9 Chwefror 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 76(4) a 140(4) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, ac a freiniwyd ynddo bellach i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 9 Chwefror 2000.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.
Diddymu
2 
Mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny, diddymir drwy hyn Reoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) 1992, Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Diwygio) 1993, Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Diwygio)1995, a Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Diwygio) 1998.
Cyrff Penodedig
3 
Mae'r cyrff canlynol yn rhai penodedig at ddibenion adran 76(4) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, sef:–
(a) Bwrdd Arholi'r Gwasanaethau Tân;
(b) Y Sefydliad Cenedlaethol dros Addysg Barhaus Oedolion;
(c) Biwro Cydwladol Llywodraeth Leol;
(d) Corff Cydgysylltu yr Awdurdodau Lleol ar Fwyd a Safonau Masnach;
(e) Public Private Partnerships Programme Limited;
(f) Syniad;
(g) yr Asiantaeth dros Welliant a Datblygiad Llywodraeth Leol;
(h) Corff Cyflogwyr Llywodraeth Leol; ac
(i) Y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Dafydd Elis Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
8 Chwefror 2000