
2000 Rhif 717 (Cy. 24 )
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Newid Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2000
Wedi'u gwneud 28 Chwefror 2000
Yn dod i rym 29 Chwefror 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 32(9), 33(4), 43(7) a 113 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 sydd bellach wedi'u breinio ynddo i'r graddau eu bod yn arferadwy yng Nghymru.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Newid Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 29 Chwefror 2000.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys yng Nghymru yn unig.
(3) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at adran â rhif yn gyfeiriad at adran o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
Cyfrifo swm sylfaenol y dreth (awdurdodau bilio)
2 
Yn adran 33, hepgorer isadrannau (3C) a (3D).
Cyfrifo anghenion cyllidebol (awdurdodau praeseptio pennaf)
3 

(1) Diwygir adran 43 fel a ganlyn.
(2) Yn lle isadran (6C), gosoder -“
(6C) In relation to a major precepting authority in Wales in this section and section 44 below “police grant” means the total amount of grant payable to that authority in accordance with the relevant police grant report.”.
(3) Yn lle isadran (6D) gosoder -“
(6D) In subsection (6C) above “the relevant police grant report” means for a financial year commencing on or after 1st April 2000 the police grant report for that year approved by a resolution of the House of Commons pursuant to section 46 of the Police Act 1996”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Chwefror 2000