
2000 Rhif 479 (Cy.20)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned Diwygio (Cymru) 2000
Wedi'u gwneud 24 Chwefror 2000
Yn dod i rym 1 Mawrth 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan adrannau 126(4) 128(1) a pharagraff 2(a) o Atodlen 7 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 a phob pŵ er arall sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol yn y cyswllt hwnnw ac a freinir bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1)  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned Diwygio (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Mawrth 2000.
(2)  Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 1996” yw Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned 1996.
(3) I Gymru'n unig mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys.
Diwygio Rheoliadau 1996
2 
Yn rheoliad 3 o Reoliadau 1996, ar ôl paragraff (2) mewnosodir y paragraff canlynol —“
(2A) In the event of the term of office of every member of a Council whose district is situated in Wales expiring on the same date, the term of office of all members appointed in consequence thereof shall be settled in accordance with the same provisions as are applied by paragraph (2) above in relation to first appointments.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
Dafydd Elis Thomas
Y Llywydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
24 Chwefror 2000