
2000 Rhif 3388 (Cy. 225)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Cig Ffres (Dulliau Rheoli Cig Eidion) (Rhif 2) (Diwygio) (Cymru) 2000
Wedi'u gwneud 29 Rhagfyr 2000
Yn dod i rym
(Sylwer: yn uniaith Saesneg y gwnaed y Rheoliadau hyn a chyfieithiad ohonynt yw'r testun Cymraeg). 1 Ionawr 2001
Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(b) ac (f), 17(1), 26 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cig Ffres (Dulliau Rheoli Cig Eidion) (Rhif 2) (Diwygio) (Cymru) 2000.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 1 Ionawr 2001.
Diwygiadau i Reoliadau Cig Ffres (Dulliau Rheoli Cig Eidion) (Rhif 2) 1996
2 

(1) Mewn perthynas â Chymru, mae Rheoliadau Cig Ffres (Dulliau Rheoli Cig Eidion) (Rhif 2) 1996 yn cael eu diwygio yn unol â pharagraff 2 o'r rheoliad hwn.
(2) Mae'r rheoliad canlynol yn cael ei fewnosod rhwng rheoliad 3 (gwahardd gwerthu cig o anifeiliaid buchol hyn) a rheoliad 4 (y Cynllun Gwarantu Cig Eidion)—“
Enforcement of Article 2.1 of Commission Regulation (EC) No. 2700/2000
3A 
No person shall contravene Article 2.1 of Commission Regulation (EC) No. 2777/2000 adopting exceptional support measures for the beef marke).”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
29 Rhagfyr 2000