
2000 Rhif 3384 (Cy. 222 )
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol (Cymru) 2000
Wedi'u gwneud 12 Rhagfyr 2000
Yn dod i rym 1 Ionawr 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 105, 108, 150 a 152 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2001.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “deiliad cyfrif dysgu unigol” (“individual learning account holder”) yw person sy'n barti i drefniadau ymgymhwyso (fel y'u pennir yn rheoliad 2);
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Dysgu a Medrau 2000;
 ystyr “gweinyddydd cyfrifon dysgu” (“learning account administrator”) yw corff sy'n darparu neu'n trefnu addysg a hyfforddiant neu sy'n cynorthwyo i'w darparu ac iddo'r fantais o fod wedi'i gymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 105(5) o'r Ddeddf at ddibenion y Rheoliadau hyn, heb fod y gymeradwyaeth wedi'i thynnu'n ôl; ac
 mae i “person cymwys” (“eligible person”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 3.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Trefniadau ymgymhwyso
2 

(1) At ddibenion adran 105 o'r Ddeddf mae trefniadau yn gymwys o dan yr adran honno mewn perthynas â Chymru—
(a) os ydynt ar ffurf cofrestru gan berson cymwys gyda gweinyddydd cyfrifon dysgu; a
(b) os nad yw'r cofrestriad wedi'i ddileu neu wedi'i dynnu'n ôl yn unol â rheoliad 4.
(2) At ddibenion adran 105 o'r Ddeddf mae trefniadau yn gymwys hefyd o dan yr adran honno mewn perthynas â Chymru os ydynt—
(a) yn drefniadau sy'n gymwys o dan adran 105 o'r Ddeddf yn rhinwedd rheoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Lloegr; neu
(b) yn drefniadau sy'n gymwys o dan adran 106 o'r Ddeddf; neu
(c) yn drefniadau sy'n gymwys o dan unrhyw ddarpariaeth yn un o Ddeddfau Senedd yr Alban sy'n cyfateb i adran 105 o'r Ddeddf,
ac os yw'r person sy'n barti iddynt yn berson cymwys neu yn bodloni'r amodau ym mharagraff (3) isod.
(3) Yr amodau yw—
(a) bod y person yn preswylio yng Nghymru; a
(b) bod grant wedi'i dalu mewn perthynas ag addysg a hyfforddiant y person yn unol â'r canlynol—
(i) rheoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Lloegr o dan adran 108 o'r Ddeddf;
(ii) rheoliadau o dan adran 109 o'r Ddeddf; neu
(iii) rheoliadau o dan unrhyw un o Ddeddfau Senedd yr Alban sy'n cyfateb i adran 108 o'r Ddeddf.
(4) At ddibenion paragraff (3) mae person yn preswylio yng Nghymru os yw'n preswylio yno dros dro neu yn barhaol (oni bai bod rheoliad 9 yn gymwys).
Ystyr Person Cymwys
3 

(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn mae person yn berson cymwys os yw'n bodloni'r amodau a geir ym mharagraffau (2) i (4) isod ar ddyddiad y cofrestru.
(2) Yr amod cyntaf yw bod y person wedi cyrraedd 18 mlwydd oed ar ddyddiad y cofrestru.
(3) Yr ail amod yw bod y person—
(a) yn ddinesydd Prydeinig;
(b) wedi setlo yn y Deyrnas Unedig o fewn ystyr adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971;
(c) yn ffoadur, yn preswylio'n gyffredin yn y Deyrnas Unedig, nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers cael ei gydnabod yn ffoadur, neu yn briod, yn blentyn neu'n llys-blentyn i ffoadur o'r fath;
(ch) yn berson sydd—
(i) wedi'i hysbysu gan berson yn gweithredu o dan awdurdod yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref y credir ei bod yn iawn iddo aros yn y Deyrnas Unedig er na fernir ei fod yn gymwys i gael ei gydnabod yn ffoadur;
(ii) wedi cael caniatâd i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny; a
(iii) wedi bod yn preswylio'n gyffredin yn y Deyrnas Unedig drwy gydol y cyfnod ers cael caniatâd i ddod i mewn neu i aros,
neu yn briod, yn blentyn neu'n llys-blentyn i berson o'r fath; neu
(d) yn berson nad yw'n perthyn o fewn paragraffau (a) i (ch) ond yn wladolyn un o aelod-wladwriaethau Ardal Economaidd Ewrop sy'n gweithio yn y Deyrnas Unedig; neu yn briod, yn blentyn neu'n llys-blentyn i berson o'r fath.
(4) Y trydydd amod yw bod y person, adeg y cofrestru, naill ai—
(a) yn preswylio yng Nghymru; neu
(b) yn preswylio y tu allan i Gymru dros dro ond yn preswylio'n gyffredin yng Nghymru. (oni bai bod rheoliad 9 yn gymwys).
(5) At ddibenion paragraff (4) mae person yn preswylio yng Nghymru os yw'n preswylio yno dros dro neu yn barhaol.
Cofrestru – Cyffredinol
4 

(1)  Caiff gweinyddydd cyfrifon dysgu ei gwneud yn ofynnol bod ceisydd am gofrestru yn darparu unrhyw wybodaeth neu ddogfennau y bydd y gweinyddydd cyfrifon dysgu yn penderfynu arnynt er mwyn i'r gweinyddydd cyfrifon dysgu benderfynu a yw'r person yn berson cymwys a chaiff wrthod derbyn cais am gofrestru oni bai bod yr wybodaeth honno neu'r dogfennau hynny yn cael eu darparu.
(2) Caiff gweinyddydd cyfrifon dysgu ddileu cofrestriad ar unrhyw adeg—
(a) os yw'r person yn peidio â bod yn berson cymwys: neu
(b) os yw'n ymddangos i'r gweinyddydd cyfrifon dysgu fod unrhyw wybodaeth a ddarparwyd o dan baragraff (1) yn ffug o ran manylyn perthnasol.
(3) Caiff person sydd wedi cofrestru gyda gweinyddydd cyfrifon dysgu dynnu ei gofrestriad yn ôl ar unrhyw adeg.
(4) Os yw person yn barti i drefniadau ymgymhwyso ni fydd unrhyw gofrestriad dilynol gyda gweinyddydd cyfrifon dysgu yn dwyn unrhyw effaith.
Grantiau i ddeiliaid cyfrif dysgu unigol neu mewn perthynas â hwy
5 
Gall grantiau gael eu talu yn unol â rheoliadau 6 i 8 isod mewn perthynas â deiliaid cyfrif dysgu unigol mewn cysylltiad ag unrhyw addysg neu hyfforddiant y maent yn bwriadu ymgymryd â hwy—
(a) os nad yw'r deiliad cyfrif dysgu unigol, adeg talu'r grant, yn cael unrhyw ysgoloriaeth, grant neu lwfans arall sy'n cael eu talu o gronfeydd cyhoeddus mewn perthynas â chost gyfan yr addysg neu'r hyfforddiant o dan sylw; a
(b) os yw'r addysg neu'r hyfforddiant yn perthyn o fewn rheoliad 6.
Yr addysg a'r hyfforddiant y gellir talu grant ar eu cyfer
6 

(1) Yr addysg neu'r hyfforddiant y cyfeirir atynt yn rheoliad 5 yw unrhyw addysg neu hyfforddiant heblaw addysg eithriedig sydd—
(a) o fath a bennir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn unrhyw ffordd y gwêl yn dda; a
(b) yn cael eu darparu gan berson sydd wedi cofrestru gyda gweinyddydd cyfrifon dysgu ac nad yw ei gofrestriad wedi'i dynnu'n ôl.
(2) Yn y rheoliad hwn, addysg eithriedig yw—
(a) addysg uwchradd (o fewn ystyr “secondary education” yn adran 2 o Ddeddf Addysg 1996; neu
(b) addysg uwch (hynny yw addysg a ddarperir drwy gyfrwng cwrs amser-llawn o unrhyw ddisgrifiad a grybwyllir yn Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988).
Swm y grant
7 
Cynulliad Cenedlaethol Cymru fydd yn penderfynu ar swm y grant y gellir ei dalu i ddeiliad cyfrif dysgu unigol neu mewn perthynas â deiliad cyfrif dysgu unigol.
Grant – darpariaeth atodol
8 

(1) Caiff grantiau eu talu ar yr adegau ac yn y rhandaliadau a benderfynir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (ac yn benodol caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru benderfynu na thelir grant nes bod y person ei hun wedi gwneud unrhyw daliad neu wedi sicrhau y telir unrhyw daliad tuag at gostau'r addysg neu'r hyfforddiant sy'n angenrheidiol).
(2) I'r person sy'n darparu'r addysg neu'r hyfforddiant y telir y grant.
(3) Gall grantiau gael eu talu ar y telerau a benderfynir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a gall y telerau hynny gynnwys telerau yn ei gwneud yn ofynnol bod rhan neu'r cyfan o'r grant yn cael ei ad-dalu—
(a) os na chaiff yr addysg neu'r hyfforddiant o dan sylw eu darparu;
(b) os nad yw'r deiliad cyfrif dysgu unigol yn ymgymryd â'r addysg neu'r hyfforddiant; neu
(c) os na chydymffurfir ag unrhyw delerau eraill y talwyd y grant arnynt.
(4) Gall grantiau gael eu talu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu gan weinyddydd cyfrifon dysgu o dan drefniadau a wneir gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru ac os gwneir trefniadau o'r fath caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru dalu tâl neu symiau i dalu ei gostau i'r gweinyddydd cyfrifon dysgu.
Preswylfa aelodau'r lluoedd arfog
9 

(1) At ddibenion y rheoliadau hyn penderfynir ar breswylfa aelod o lynges, byddin neu awyrlu y Goron (“aelod o'r lluoedd arfog”) yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Oni bai bod paragraff (3) yn gymwys, ymdrinnir ag aelod o'r lluoedd arfog fel pe bai'n preswylio yn y sefydliad lle mae'n gwasanaethu am y tro.
(3) Os yw'r aelod o'r lluoedd arfog yn gwasanaethu mewn sefydliad y tu allan i'r Deyrnas Unedig, ymdrinnir â'r aelod hwnnw fel pe bai'n preswylio yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig lle bu'n gwasanaethu yn fwyaf diweddar, gan anwybyddu unrhyw sefydliad lle bu'n gwasanaethau am gyfnod o lai na mis.
Darpariaethau Trosiannol
10 
Ymdrinnir ag unrhyw berson cymwys a oedd, cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, yn barti i drefniadau a elwid yn Gyfrif Dysgu Unigol a wnaed gan Gyngor Hyfforddi a Menter, (yn ddarostyngedig i reoliad 4(4)) fel pe bai wedi'i gofrestru gyda gweinyddydd cyfrifon dysgu a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 105(5) o'r Ddeddf o'r dyddiad y rhoddwyd y gymeradwyaeth honno.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Dafydd Elis Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
12 Rhagfyr 2000