
2000 Rhif 3382 (Cy. 220 )
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2000
Wedi'u gwneud 12 Rhagfyr 2000
Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 140(4) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 4, 5 a 6 o Atodlen 8 iddi, ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru:
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2000 a byddant yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 2000.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 1992” yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992.
Diwygio Rheoliadau 1992
2 
Ynglŷn â'r blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2001, diwygir Atodlenni 1, 2 a 4 i Reoliadau 1992 fel a ganlyn:—
(a) ym mharagraff 4(1) o Atodlen 1, yn lle'r fformwla “(A × £39.90) + (B × 0.00078)” y rhoddir y fformwla “(A × £39.50) + (B × 0.00087)”;
(b) ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2, yn lle “1.005” y rhoddir “1.004”;
(c) ym mharagraff 8(1) o Atodlen 2, yn lle “1.2 per cent” y rhoddir “1 per cent”; a
(ch) yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 y rhoddir yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Rhagfyr 2000
ATODLEN
Rheoliad 2
“
SCHEDULE 4
ADULT POPULATION FIGURES
Regulation 6


Billing authority area Prescribed figure
Blaenau Gwent 54,700
Bridgend 101,400
Caerphilly 128,300
Carmarthenshire 132,800
Cardiff 247,800
Ceredigion 57,600
Conwy 88,700
Denbighshire 70,600
Flintshire 113,600
Gwynedd 91,100
Isle of Anglesey 50,300
Merthyr Tydfil 42,000
Monmouthshire 67,500
Neath Port Talbot 107,000
Newport 104,300
Pembrokeshire 87,600
Powys 99,100
Rhondda Cynon Taff 184,400
Swansea 179,700
Torfaen 68,100
Vale of Glamorgan (The) 92,200
Wrexham 96,800”