
2000 Rhif 3340 (Cy. 218)
ANIFEILIAID, CYMRUANIFEILIAID DINISTRIOL
Gorchymyn Cadw Mincod (Cymru) 2000
Wedi'u gwneud 19 Rhagfyr 2000
Yn dod i rym 1 Ionawr 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i fodloni mewn perthynas â'r rhywogaeth famalaidd anfrodorol sy'n destun y Gorchymyn hwn ei bod yn ddymunol eu rheoli oherwydd eu harferion dinistriol a difa unrhyw rai ohonynt sy'n rhydd, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 10(1) o Ddeddf Anifeiliaid Dinistriol a Fewnforir 1932 ac a freiniwyd ynddo yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Teitl, cymhwyso, cychwyn a pharhad
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cadw Mincod (Cymru) 2000, bydd yn gymwys i Gymru a daw i rym ar 1 Ionawr 2001.
(2) Bydd effaith y Gorchymyn hwn yn peidio ar 1 Ionawr 2004.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Anifeiliaid Dinistriol a Fewnforir 1932; ac
 ystyr “mincod” (“mink”) yw'r anifeiliaid sy'n perthyn i'r rhywogaeth Mustela vison.
Cadw mincod
3 
Gwaherddir cadw mincod, ac eithrio o dan drwydded a roddir o dan y Ddeddf.
Eithriadau wrth gymhwyso'r Ddeddf
4 
Wrth gymhwyso'r Ddeddf at fincod, hepgorir adran 5(2) ac, yn adran 6(1), baragraff (f) a'r cyfeiriad at gosb yn achos tramgwydd o dan baragraff (f).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
19 Rhagfyr 2000