
2000 Rhif 3294 (Cy. 216 )
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Cynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Modwleiddio) (Cymru) 2000
Wedi'u gwneud 14 Rhagfyr 2000
Yn dod i rym 1 Ionawr 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas à pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:—
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Modwleiddio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2001.
Cymhwyso
2 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
(2)  Mewn perthynas à thaliadau i ffermwr o dan unrhyw gynllun cymorth ACS, bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i'r graddau, a dim ond i'r graddau, mai'r Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod cymwys perthnasol mewn perthynas à daliad y ffermwr.
Dehongli
3 

(1) Yn y Rheoliadau hyn –
 ystyr “atodiad ALlFf” (“LFA supplement”) yw taliad sy'n cael ei wneud o dan Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1323/1990 yn sefydlu cymorth penodol ar gyfer ffermio defaid a geifr yn rhai o ardaloedd llai ffafriol y Gymuned, fel atodiad i daliad premiwm i gynhyrchydd cig dafad neu gig gafr;
 ystyr “awdurdod cymwys perthnasol” (“relevant competent authority”) yw'r awdurdod sy'n awdurdod cymwys perthnasol o fewn ystyr y Rheoliadau System Integredig Gweinyddu a Rheoli 1993;
 ystyr “blwyddyn gynllun” (“scheme year”) yw'r deuddeng mis y gwneir taliadau ar eu cyfer yn unol à'r cynllun cymorth o dan sylw;
 ystyr “blwyddyn gynllun berthnasol” (“relevant scheme year”) yw'r flwyddyn gynllun sy'n dechrau yn 2001 neu mewn unrhyw flwyddyn ddilynol hyd at a chan gynnwys 2006;
 ystyr “Bwrdd Ymyrraeth” (“Intervention Board”) yw'r Bwrdd Ymyrraeth ar gyfer Cynhyrchion Amaethyddol a sefydlwyd o dan adran 6(1) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972;
 ystyr “cynllun cymorth” (“support scheme”) yw unrhyw gynllun cymorth a restrir yn yr Atodlen i Reoliad y Cyngor;
 ystyr “cynllun cymorth IACS” (“IACS support scheme”) yw –
(a) unrhyw gynllun cymorth a bennir yn Erthygl 1 o Reoliad y Cyngor 3508/92, fel y mae'r cynllun hwnnw'n effeithiol ar y dyddiad y gwneir y Rheoliadau hyn;
(b) unrhyw gynllun sy'n darparu ar gyfer atodiadau ALlFf; ac
(c) unrhyw gynllun ar gyfer talu cymorth fel iawndal amaeth-ariannol;
 Ystyr “cynlluniau'r Bwrdd” (“Board Schemes”) yw cynlluniau cymorth y mae'r Bwrdd Ymyrraeth yn gyfrifol am wneud taliadau mewn perthynas a hwy;
 ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
 mae I “daliad” yr ystyr a roddir i “holding” gan Erthygl 1(4) o Reoliad y Cyngor 3508/92;
 ystyr “dibenion perthnasol” (“relevant purposes”) yw dibenion unrhyw daliad a wneir yn unol ag unrhyw fesur sy'n gweithredu unrhyw un o ddarpariaethau Erthyglau 13 i 24 (yn gynhwysol) neu Erthygl 31 o'r Rheoliad Datblygu Gwledig;
 mae i “ffermwr” yr ystyr a roddir i “farmer” gan Erthygl 1(4) o Reoliad y Cyngor 3508/92;
 ystyr “iawndal amaeth-ariannol” (“agrimonetary compensation”) yw taliad sy'n cael ei wneud yn unol ag Erthyglau 4 neu 5 o'r Rheoliad Amaeth-ariannol fel atodiad i daliad (“y prif daliad”) sy'n cael ei wneud yn unol à chynllun cymorth;
 ystyr “y Rheoliad Amaeth-ariannol” (“the Agrimonetary Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2799/98 sy'n sefydlu trefniadau amaeth-ariannol ar gyfer yr ewro;
 ystyr “y Rheoliad Datblygu Gwledig” (“the Rural Development Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 ar gymorth ar gyfer datblygu gwledig o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF) ac sy'n diwygio a diddymu Rheoliadau penodol;
 ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1259/1999 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan bolisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd;
 ystyr “Rheoliad y Cyngor 3508/92” (“Council Regulation 3508/92”) yw Rheoliad y Cyngor (EEC) 3508/92 sy'n sefydlu system integredig gweinyddu a rheoli ar gyfer rhai o gynlluniau cymorth y Gymuned; ac
 ystyr “y swm perthnasol” (“the relevant amount”) yw unrhyw swm a fyddai'n daladwy gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu, yn òl fel y digwydd, y Bwrdd Ymyrraeth, yn unol à'r cynllun cymorth o dan sylw, pe na bai rheoliad 4 yn gymwys.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae taliad yn cael ei wneud yn unol à chynllun cymorth os yw'r canlynol yn wir—
(a) ei fod yn cael ei wneud yn unol à gofynion y cynllun hwnnw; neu
(b) i'r graddau y mae'n cael ei ariannu gan adran Warantu Cronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop, ei fod yn cael ei wneud yn unol ag unrhyw benderfyniad a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol i weithredu'r cynllun hwnnw.
Modwleiddio taliadau cynlluniau cymorth
4 

(1) Er mwyn cyfrifo swm unrhyw daliad y mae gan unrhyw berson hawl i'w gael yn unol ag unrhyw gynllun cymorth ar gyfer blwyddyn gynllun berthnasol, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, neu y Bwrdd Ymyrraeth (yn achos taliadau o dan gynlluniau'r Bwrdd), dynnu o'r swm perthnasol y gyfran benodedig o'r swm hwnnw, a rhaid iddo ddefnyddio'r swm a dynnir felly fel arian at un neu ragor o'r dibenion perthnasol.
(2) At ddibenion paragraff (1), ymdrinnir à thaliad iawndal amaeth-ariannol fel petai wedi'i wneud ar gyfer y flwyddyn gynllun y gwnaed y prif daliad y mae'n atodiad iddo ar ei chyfer.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “y gyfran benodedig” yw –
(a) 2.5% ar gyfer y flwyddyn gynllun sy'n dechrau yn 2001;
(b) 3.0% ar gyfer y flwyddyn gynllun sy'n dechrau yn 2002;
(c) 3.5% ar gyfer y blynyddoedd cynllun sy'n dechrau yn 2003 a 2004; ac
(ch) 4.5% ar gyfer y blynyddoedd cynllun sy'n dechrau yn 2005 a 2006;
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
John Marek
Dirpwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Rhagfyr 2000