
2000 Rhif 3230 (Cy. 213 ) (C. 103 )
ADDYSG CYMRU, CYFLOGAETH A HYFFORDDIANT, CYMRU
Gorchymyn Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2000
Wedi'i wneud 7 Rhagfyr 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 154(2) a (4) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000:
Enwi, dehongli a chymhwyso
1 
–
(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2000.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Dysgu a Medrau 2000.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru a daw'r darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i rym mewn perthynas â Chymru at bob diben oni nodir yn wahanol.
Darpariaethau sy'n dod i rym
2 
Daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ionawr 2001.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
7 Rhagfyr 2000
ATODLEN
Darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Ionawr 2001 mewn perthynas â Chymru
Erthygl 2


 Adran 42.
 Adran 43.
 Adran 44.
 Adran 46.
 Adran 48.
 Adran 73.
 Adran 87.
 Adran 93.
 Adran 95.
 Adran 139.
 Adran 141.
 Adran 145.
 Adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 9 a bennir isod.
 Adran 153 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 11 a bennir isod.
 Atodlen 5.
 Yn Atodlen 9 –
 paragraff 21(b)
 paragraff 34,
 paragraff 36,
 paragraff 44(3) a (4),
 paragraff 45,
 paragraff 64,
 paragraff 70,
 paragraff 81,
 paragraff 86,
 paragraff 92.
 Yn Atodlen 11 diddymiadau'r canlynol i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru –
 adrannau 18(4) i (6), 60A o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 ac Atodlen 5A iddi,
 paragraff 113 o Atodlen 37 i Ddeddf Addysg 1996,
 yn adran 19, yn is-adran (1) y gair “or” yn union cyn paragraff (b), yn is-adran (2)(f) y geiriau “employed as a teacher at a school” ac yn is-adran (10) y gair “and” yn union cyn paragraff (c); a'r geiriau “attendance on” yn adran 22(2)(h) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998,
 adrannau 125 a 126 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac Atodlen 27 iddi,
 y geiriau o “; and in determining” hyd at ddiwedd adran 104(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
