
2000 Rhif 3156 (Cy. 205 )
AER GLÅN, CYMRU
Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) (Cymru) 2000
Wedi'u gwneud 28 Tachwedd 2000
Yn dod i rym 1 Rhagfyr 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 20(6) a 63(1) o Ddeddf Aer Glân 1993 a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2000.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Tanwyddau awdurdodedig at ddibenion Deddf Aer Glân 1993
2 

(1) Diwygir Atodlen 1 i Reoliadau Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) 1991 fel a ganlyn:
(2) Yn lle paragraff 8(a) rhowch —“
(a) Coal Products Limited at Cwm Coking Works, Llantwit Fardre, Pontypridd, Mid Glamorgan and sold as “Sunbrite”,”.
(3) Ym mharagraff 8AA, yn lle “, which” rhowch “and Aimcor Supercoke (also marketed as Supercoke), manufactured by M & G Fuels Limited at Hartlepool Docks, Hartlepool, Cleveland, which (in each case)”.
(4) Ar ôl paragraff 17A mewnosodwch:—“
17AB.  
Supabrite Coke Doubles, manufactured by H.J. Banks & Company Limited at Inkerman Road Depot, Tow Law, County Durham, which —
(a) comprise metallurgical coke (as to approximately 40 to 60 per cent of the total weight) and petroleum coke (as to the remaining weight);
(b) were manufactured from those constituents by a process involving blending and screening;
(c) are unmarked random shapes; and
(d) have a sulphur content not exceeding 1.95 per cent of the total weight.”.
(5) Ym mharagraffau 18, 18A a 19, yn lle “Thermac Fuels Limited” ym mhob man y ceir yr enw rhowch “Coal Products Limited”.
(6) Yn lle paragraff 18B(c) rhowch —“
(c) are pillow-shaped briquettes marked with a single indented line running longitudinally along each face, offset from its counterpart by 10 millimetres or unmarked, and in either case have an average weight of 75 grammes; and”.
Eithriadau
3 
Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan reoliad 2(2) a (5), bydd golosg Sunbrite a Beacon Beans a weithgynhyrchwyd cyn i'r Rheoliadau yma ddod i rym yn Avenue Coking and Chemical Works, Wingerworth, ger Chesterfield, Swydd Derby a brics glo Supertherm, Supertherm II a Thermac a weithgynhyrchwyd cyn y dyddiad hwnnw gan Thermac Fuels Limited yn dal i fod yn danwyddau awdurdodedig.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998).
Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Tachwedd 2000