
2000 Rhif 3122 (Cy. 200 )
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Athrawon (Cofrestru Gorfodol) (Cymru) 2000
Wedi'u gwneud 23 Tachwedd 2000
Yn dod i rym 1 Chwefror 2001
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Adran 218(1)(aa) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Athrawon (Cofrestru Gorfodol) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Cofrestru gorfodol gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru
2 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni all neb sy'n athro neu athrawes gymwysedig gael ei gyflogi neu ei chyflogi fel athro neu athrawes mewn ysgol yng Nghymru onid yw wedi'i gofrestru neu ei chofrestru yn unol ag adran 3 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â pherson a gyflogir fel athro neu athrawes mewn ysgol os yw'r person hwnnw wedi'i gyflogi dim ond i ddarparu—
(a) addysg ran-amser i bersonau dros oedran ysgol gorfodol yn unig; neu
(b) addysg amser-llawn i bersonau sydd wedi cyrraedd 19 oed yn unig; neu
(c) addysg ran-amser ac addysg amser-llawn o'r fath.
(3) Yn y rheoliad hwn —
(a) mae i “athro neu athrawes gymwysedig” yr un ystyr ag a roddir i “qualified teacher” yn adran 218(2) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988;
(b) mae cyfeiriadau at berson a gyflogir fel athro neu athrawes yn cynnwys cyfeiriadau at berson y cytunwyd ei fod i ddarparu ei wasanaethau fel athro neu athrawes heblaw o dan gontract cyflogaeth; ac
(c) mae cyfeiriadau at ysgol yn gyfeiriadau:
(i) at ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol o fewn ystyr adran 142(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998; neu
(ii) at ysgol arbennig o fewn ystyr adran 337(1) o Ddeddf Addysg 1996 nad yw'n cael ei chynnal felly.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998).
John Marek
Dirpwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Tachwedd 2000