
2000 Rhif 3026 (Cy. 194 )
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Gwahardd o'r Ysgol) (Cyfnodau Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2000
Wedi'u gwneud 9 Tachwedd 2000
Yn dod i rym 1 Ionawr 2001
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 66(8) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwahardd o'r Ysgol) (Cyfnodau Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2001.
Diwygio
2 
Yn rheoliad 3(2)(c) o Reoliadau Addysg (Gwahardd o'r Ysgol) (Cyfnodau Rhagnodedig) 1999 (cyflawni dyletswyddau'r corff llywodraethu), yn gymaint â'i fod yn ymwneud â Chymru, rhoddir “50” yn lle “30”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998).
John Marek
Dirpwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Tachwedd 2000