
2000 Rhif 2540 (Cy.163) (C.70)
ADDYSG, CYMRU
CYFLOGAETH A HYFFORDDIANT, CYMRU
Gorchymyn Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2000
Wedi'i wneud 15 Medi 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 154(2) a (4) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000:
Enwi, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2000.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Dysgu a Medrau 2000.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Y darpariaethau sy'n dod i rym
1 
Daw'r darpariaethau yn y Ddeddf a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 19 Medi 2000.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Sue Essex
Ysgrifennydd Cynulliad
15 Medi 2000
ATODLEN
Y DARPARIAETHAU SY'N DOD I RYM AR 19 Medi 2000.
Erthygl 2


 Adran 30.
 Adran 47.
 Adran 49.
 Adran 51.
 Adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 9 a bennir isod.
 Atodlen 4.
 Yn Atodlen 9—
 paragraffau 3 a 4 i'r graddau y maent yn ymwneud â Chyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant,
 paragraff 93.
