
2000 Rhif 2539 (Cy.162)
ADDYSG, CYMRU
CYFLOGAETH A HYFFORDDIANT, CYMRU
Gorchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Swyddogaethau Interim) 2000
Wedi'i wneud 15 Medi 2000
Yn dod i rym 19 Medi 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan baragraff 13 o Atodlen 10 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000:
Enwi, cychwyn a dehongli
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Swyddogaethau Interim) 2000 a daw i rym ar 19 Medi 2000.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Dysgu a Medrau 2000; ac
 ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant.
Swyddogaethau Interim y Cyngor
3 

(1) Hyd nes y daw adrannau 31, 32, 40(1), 40(6) a 41 o'r Ddeddf i rym gall y Cyngor (yn ychwanegol at unrhyw bwerau a roddwyd iddo o dan ddarpariaethau'r Ddeddf sydd mewn grym)—
(a) gwneud unrhyw beth y mae'n ymddangos ei fod yn angenrheidiol neu'n fanteisiol wrth baratoi i arfer y swyddogaethau a roddir gan unrhyw un o'r adrannau hynny pan ddeuant i rym; a
(b) mewn cysylltiad â'r pwerau a roddir gan is-baragraff (a), rhoi cymorth ariannol i bersonau sy'n bwriadu darparu gwybodaeth, cyngor neu ganllawiau ynghylch addysg neu hyfforddiant neu faterion cysylltiedig (gan gynnwys cyflogaeth).
(2) Os bydd y Cyngor yn darparu cymorth ariannol o dan y pŵer a roddir gan baragraff (1)(b) uchod gall osod amodau; a gall yr amodau—
(a) galluogi'r Cyngor i'w gwneud yn ofynnol ad-dalu (yn gyfan neu'n rhannol) symiau a delir gan y Cyngor os na chydymffurfir ag unrhyw amodau y telir y symiau'n ddarostyngedig iddynt; a
(b) ei gwneud yn ofynnol talu llog mewn perthynas ag unrhyw gyfnod pryd y mae swm sy'n ddyledus i'r Cyngor heb ei dalu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Sue Essex
Ysgrifennydd Cynulliad
15 Medi 2000