
2000 Rhif 2041 (Cy. 147 )
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau y Gellir eu Codi) (Diwygio) (Cymru) 2000
Wedi'u gwneud 19 Gorffennaf 2000
Yn dod i rym 1 Awst 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 58 a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau y Gellir eu Codi) (Diwygio) (Cymru) 2000, a deuant i rym ar 1 Awst 2000.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau y Gellir eu Codi) (Cymru) 1999
Diwygio'r prif Reoliadau
3 

(1) Diwygir y prif Reoliadau yn unol â'r paragraffau canlynol.
(2) Yn Rheoliad 2(1), ar ôl y diffiniad o “person dynodedig” rhowch —“
 ystyr “Rheoliadau 1993” yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) 1993; ”
(3) Yn Rheoliad 3(1), yn lle “ac 1 Ebrill 2002”, rhowch —“
 , 1 Ebrill 2002, 1 Ebrill 2003 a 1 Ebrill 2004.”.
(4) Yn Rheoliad 8, ar ôl paragraff (4), rhowch —“
(5) Yn y blynyddoedd perthnasol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2003 a 1 Ebrill 2004, cyfrifir y swm y gellir ei godi yn unol â darpariaethau Rhan III o'r Ddeddf.”.
(5) Yn Rheoliad 10, ar ôl paragraff (3), rhowch —“
(4) Os yw'r swm a geir drwy gymhwyso'r fformwla a nodir ym mharagraffau (2) a (3) yn llai na'r swm a geid drwy gyfrifo'r swm y gellir ei godi am ddosbarth perthnasol ar gyfer yr hereditament hwnnw yn unol â darpariaethau Rhan III o'r Ddeddf, y swm a gyfrifir yn unol â Rhan III o'r Ddeddf fydd y swm y gellir ei godi am ddiwrnod perthnasol ar gyfer yr hereditament hwnnw.
(5) Yn y blynyddoedd perthnasol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2003 a 1 Ebrill 2004 cyfrifir y swm y gellir ei godi yn unol â darpariaethau Rhan III o'r Ddeddf.”.
(6) Ar ôl Rheoliad 10, rhowch –“
10A 
Mae Rheoliad 10B yn gymwys i hereditament diffiniedig os yw'r amod yn Rheoliad 9 wedi'i fodloni ac nad yw adrannau 43(5), 43(6A) neu 45 o'r Ddeddf yn gymwys ar 31 Mawrth 2000.
10B 

(1) Os elusen neu ymddiriedolwyr elusen sy'n talu'r ardrethi a bod yr hereditament diffiniedig yn cael ei ddefnyddio yn gyfan gwbl neu yn bennaf at ddibenion elusennol, ceir y swm y gellir ei godi drwy rannu'r swm a gyfrifir yn unol â rheoliad 10 â 5.
(2) Os yw adran 43(6B) o'r Ddeddf (siopau cyffredinol etc. mewn aneddiadau gwledig) yn gymwys mewn perthynas â'r hereditament diffiniedig, ceir y swm y gellir ei godi drwy rannu'r swm a gyfrifir yn unol â rheoliad 10 â 2.
(3) Os yw'r amodau yn adran 45(1) o'r Ddeddf (eiddo nad yw wedi'i feddiannu) wedi'u bodloni mewn perthynas â'r hereditament diffiniedig, ceir y swm y gellir ei godi drwy rannu'r swm a gyfrifir yn unol â rheoliad 10 â 2, neu mewn achos lle mae adran 45(6) (hereditamentau elusennau nad ydynt wedi'i meddiannu) yn gymwys, â 10.”.
(7) Yn Rheoliad 12(2), yn lle “2001” rhowch –“2005”.
(8) Ar ôl Rheoliad 12, rhowch —“
13 
Pan wneir newid yn y gwerth ardrethol a ddangosir mewn rhestr ar 1 Ebrill 2000, a bod y newid hwnnw yn effeithiol o ddyddiad diweddarach yn unol â darpariaethau Rheoliad 13A(2) o Reoliadau 1993, yna bydd darpariaethau Rheoliad 11(1) yn gymwys.”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
19 Gorffennaf 2000