
2000 Rhif 2030 (Cy. 143 )
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2000
Wedi'u gwneud 24 Gorffennaf 2000
Yn dod i rym 1 Medi 2000
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 41(3) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Medi 2000.
(2) Dim ond i Gymru y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys.
Y weithdrefn ar gyfer newid amserau sesiynau ysgolion
2 

(1) Os bydd corff llywodraethu ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol arbennig gymunedol yn bwriadu newid amserau sesiynau'r ysgol (neu, os nad oes ond un, sesiwn yr ysgol), rhaid iddynt —
(a) ymgynghori â'r awdurdod addysg lleol, y pennaeth a'r holl bersonau a gyflogir mewn swyddi addysgu neu swyddi nad ydynt yn swyddi addysgu yn yr ysgol cyn cymryd unrhyw un o'r camau a nodir ym mharagraffau (b) i (e);
(b) paratoi datganiad—
(i) sy'n dangos eu bod yn bwriadu newid yr amserau hynny,
(ii) sy'n pennu'r newid arfaethedig a phryd maent yn bwriadu iddo ddod yn weithredol,
(iii) sy'n tynnu sylw at unrhyw sylwadau ar y cynnig a gynhwysir fel atodiad i'r datganiad yn rhinwedd paragraff (c) ac sy'n cynnwys unrhyw ymateb i'r sylwadau y barnant i fod yn briodol, a
(iv) sy'n rhoi manylion am ddyddiad, amser a lleoliad y cyfarfod y mae'n ofynnol iddynt ei gynnal yn rhinwedd paragraff (dd);
(c) cynnwys, mewn atodiad i'r datganiad hwnnw, unrhyw sylw ysgrifenedig ar y cynnig y bydd yr awdurdod addysg lleol yn ei ddarparu i'r perwyl hwnnw, os yw'r awdurdod yn gofyn amdano;
(ch) cynhyrchu'r datganiad hwnnw ac unrhyw atodiad mewn unrhyw iaith neu ieithoedd (yn ychwanegol at y Gymraeg neu'r Saesneg), os o gwbl, barnant yn briodol neu'n unol ag unrhyw gyfarwyddyd gan yr awdurdod addysg lleol;
(d) cymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau—
(i) bod rhieni pob plentyn cofrestredig yn yr ysgol yn cael (yn rhad ac am ddim) gopi o'r datganiad ac unrhyw atodiad nid llai na phythefnos cyn y cyfarfod y mae'n ofynnol i'r corff llywodraethu ei gynnal yn rhinwedd paragraff (dd), a
(ii) bod copïau o'r datganiad ac unrhyw atodiad ar gael i'w harchwilio (ar bob adeg resymol ac yn rhad ac am ddim) yn yr ysgol yn ystod y cyfnod o bythefnos yn union cyn y cyfarfod;
(dd) rhoi cyfle i drafod y cynnig mewn cyfarfod sy'n agored i—
(i) bob un o rieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol,
(ii) y pennaeth, a
(iii) unrhyw bersonau arall y bydd y corff llywodraethu yn eu gwahodd;
(e) ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd ar y cynnig yn y cyfarfod cyn penderfynu a ddylid newid yr amserau ac (os dylid) a ddylid gweithredu'r cynnig gan ei addasu neu heb ei addasu;
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), os bydd y corff llywodraethu yn penderfynu gweithredu'r newid arfaethedig (gan ei addasu neu heb ei addasu), rhaid iddynt, o fewn dim llai na chwe wythnos cyn bod unrhyw newid yn yr amserau hynny i ddod yn weithredol—
(i) hysbysu'r awdurdod addysg lleol o'r newid a phryd y bwriedir iddo ddechrau dod yn weithredol, a
(ii) cymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau bod rhieni pob disgybl cofrestredig yn yr ysgol yn cael eu hysbysu.
(3) Pan fydd a wnelo'r newid â'r amserau y bwriedir i sesiwn ysgol ddechrau yn y bore neu ddod i ben yn y prynhawn (neu'r ddau) ni fydd y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yn llai na thri mis.
Amserau sesiynau ysgolion a newidiwyd yn dod yn weithredol
3 
Ni fydd newid i amserau sesiynau ysgolion yn cael ei wneud ond er mwyn iddo ddod yn weithredol —
(a) pan fydd rheoliad 2(3) yn gymwys, ar ddechrau blwyddyn ysgol; a
(b) ym mhob achos arall, ar ddechrau tymor ysgol.
Rheoli'r cyfarfodydd
4 
Bydd trafodion unrhyw gyfarfod y mae'n rhaid darparu cyfle i drafod ynddo yn rhinwedd Rheoliad 2(1)(dd) o dan reolaeth y corff llywodraethu.
Llofnodwyd ar ran Cynullaid Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Jane Davidson
Y Dirprwy Lywydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
24 Gorffennaf 2000