
2000 Rhif 1992 (Cy. 144 )
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau Diwygio (Rhif 2) y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2000
Wedi'u gwneud 13 Gorffennaf 2000
Yn dod i rym 1 Awst 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 29 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw:—
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso.
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio (Rhif 2) y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Awst 2000.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 1992” yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992.
(3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau 1992
2 
Yn Rheoliad 34(2) o Reoliadau 1992 (taliadau), yn lle is-baragraff (e) rhoddir —“
(e) allowances for study leave;”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Gorffennaf 2000