
2000 Rhif 1980 (Cy. 141 )
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Ieithoedd Tramor Modern) (Cymru) 2000
Wedi'i wneud 24 Gorffennaf 2000
Yn dod i rym 1 Awst 2000
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 354(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Ieithoedd Tramor Modern) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Awst 2000.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
 mae cyfeiriadau at y trydydd cyfnod allweddol yn gyfeiriadau at y cyfnod a nodir yn adran 355(1)(c) o Ddeddf Addysg 1996; ac
 mae cyfeiriadau at ieithoedd swyddogol y Gymuned Ewropeaidd yn gyfeiriadau at ieithoedd a bennwyd yn ieithoedd swyddogol sefydliadau'r Gymuned Ewropeaidd gan Erthygl 1 o Reoliad Rhif 1 Cyngor yr EEC dyddiedig Ebrill 15 1958.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
2 
Diddymir drwy hyn Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Ieithoedd Tramor Modern) 1991 a Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Ieithoedd Tramor Modern) (Diwygio) 1994 mewn perthynas â Chymru.
3 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), at ddibenion adran 354 o Ddeddf Addysg 1996 (y pynciau craidd a phynciau sylfaen eraill) ystyr “iaith dramor fodern” yw unrhyw iaith dramor fodern.
(2) Nid yw iaith dramor fodern nad yw'n un o ieithoedd swyddogol y Gymuned Ewropeaidd yn “iaith dramor fodern” at ddibenion adran 354 o Ddeddf Addysg 1996 oni chaiff yr amod ym mharagraff (3) ei fodloni.
(3) Yr amod hwnnw yw bod yr ysgol lle mae'r iaith yn cael ei haddysgu yn cynnig cyfle i bob disgybl yn y trydydd cyfnod allweddol y mae'n ofynnol iddynt astudio iaith dramor fodern fel pwnc sylfaen astudio un neu ragor o ieithoedd swyddogol y Gymuned Ewropeaidd fel pwnc sylfaen.
4 

(1) Caiff unrhyw gwestiwn ynghylch a yw iaith dramor benodol yn iaith dramor fodern at ddibenion adran 354 o Ddeddf Addysg 1996 ei benderfynu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(2) Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud penderfyniad o dan baragraff (1) yn dilyn cais gan unrhyw berson neu ar ei ysgogiad ei hun.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Jane Davidson
Y Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
24 Gorffennaf 2000