
2000 Rhif 1941 (Cy.139)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000
Wedi'i wneud 19 Gorffennaf 2000
Yn dod i rym 1 Medi 2000
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 7(1) a (4) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod o'r farn ei bod yn briodol, o gofio amcanion cyffredinol Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, i'r Cyngor gyflawni'r swyddogaethau ychwanegol a roddir drwy hyn, ac ar ôl ymgynghori fel y gwêl yn dda, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000 a daw i rym ar 1 Medi 2000.
2 
Yn y Gorchymyn hwn –
 ystyr “athro neu athrawes cynllun carlam” (“fast track teacher”) yw athro neu athrawes ddosbarth y mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Chyflogaeth neu asesydd a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol wedi eu hardystio felly;
 ystyr “athro neu athrawes gofrestredig” (“registered teacher”) yw person sydd am y tro wedi'i gofrestru o dan adran 3 o Ddeddf 1998;
 mae i “athro neu athrawes gymwysedig” yr un ystyr ag a roddir i “qualified teacher” yn adran 218(2) o Ddeddf 1988;
 ystyr “athro neu athrawes sydd wedi croesi'r trothwy” (“teacher who has passed the threshold”) yw athro neu athrawes y mae asesydd a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Chyflogaeth wedi ardystio eu bod wedi croesi'r trothwy perfformiad a bennwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol, neu y mae pennaeth neu berson arall wedi eu hardystio felly o dan drefniadau sydd wedi'u cymeradwyo gan asesydd;
 ystyr “athro neu athrawes uwch-fedrau” (“advanced skills teacher”) yw athro neu athrawes sydd wedi'u hardystio gan asesydd a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Chyflogaeth yn un sy'n gymwys i'w penodi i swydd athro neu athrawes uwch-fedrau;
 mae “cyflogaeth” (“employment”) mewn perthynas â chyflogaeth athro neu athrawes yn cynnwys rhoi gwaith i'r athro neu'r athrawes neu trefnu rhoi gwaith iddynt er mwyn iddynt ddarparu eu gwasanaeth fel athro neu athrawes heblaw o dan gontract cyflogaeth, a dehonglir “cyflogi” (“employed”) yn unol â hynny;
 ystyr “cyfnod ymsefydlu” (“induction period”) yw cyfnod ymsefydlu a fwrir yn unol â rheoliadau o dan adran 19 o Ddeddf 1998;
 ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru;
 ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
 ystyr “Deddf 1988” (“the 1988 Act”) yw Deddf Diwygio Addysg 1988;
 ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998; ac
 ystyr “y Gofrestr” (“the Register”) yw'r gofrestr o athrawon ac athrawesau y mae'n ofynnol i'r Cyngor ei sefydlu a'i chadw yn unol ag adran 3 o Ddeddf 1998 a rheoliadau a wnaed o dan adran 4 o'r Ddeddf honno, a dehonglir “cofrestru” (“registration”) yn unol â hynny.
3 

(1) Drwy hyn rhoddir i'r Cyngor y swyddogaeth ychwanegol o gadw cofnodion sy'n ymwneud â'r categorïau o bersonau a restrir yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
(2) Bydd y cofnodion a grybwyllir ym mharagraff (1) yn cynnwys yr wybodaeth a restrir yn Rhan II o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i'r graddau y mae'n gymwys i'r person o dan sylw.
(3) Caiff y cofnodion a grybwyllwyd ym mharagraff (1) eu cadw ar ffurf ysgrifenedig neu ar ffurf electronig.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
19 Gorffennaf 2000
ATODLEN
Erthygl 3
RHAN I Personau y mae'n ofynnol i'r Cyngor gadw cofnodion mewn perthynas â hwy
1 
Personau y mae eu henwau wedi'u tynnu oddi ar y Gofrestr heblaw rhai y cafodd eu henwau eu tynnu ar eu cais hwy eu hunain neu sydd wedi marw.
2 
Personau sy'n anghymwys i'w cofrestru yn rhinwedd adran 3(3)(a) i (c) a (4) o Ddeddf 1998.
3 
Athrawon neu athrawesau cymwysedig nad ydynt yn athrawon neu athrawesau cofrestredig.
4 
Personau nad ydynt yn athrawon neu athrawesau cofrestredig, sydd wedi dechrau cwrs o hyfforddiant cychwynnol i athrawon ac athrawesau, p'un a ydynt wedi cwblhau'r cwrs hwnnw neu beidio.
5 
Personau nad ydynt yn athrawon neu athrawesau cymwysedig ac sy'n cael eu cyflogi yn athrawon neu athrawesau mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdod addysg lleol.
6 
Personau nad ydynt yn athrawon neu athrawesau cofrestredig ac sy'n paratoi at Gymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol Prifathrawiaeth, neu wedi'i ennill.
7 
Personau nad ydynt yn perthyn i unrhyw un o'r categorïau uchod ac nad ydynt yn athrawon neu athrawesau cofrestredig, sydd —
(a) â rhif cyfeirnod swyddogol wedi'i ddyrannu iddynt; a
(b) yn cael eu cyflogi, neu wedi cael eu cyflogi ar unrhyw adeg, yn athro neu'n athrawes mewn ysgol neu sefydliad addysgol arall.
RHAN II Yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn y cofnodion
1 
Y rhif cyfeirnod swyddogol, os oes un, a ddyrannwyd i'r person.
2 
Ai gwryw ynteu fenyw yw'r person.
3 
Dyddiad geni'r person.
4 
Os yw'n hysbys, unrhyw enw y câi'r person ei adnabod wrtho o'r blaen.
5 
Os yw'n hysbys, i ba grŵp hil y mae'r person yn perthyn.
6 
Os yw'n hysbys, a yw'r person yn anabl.
7 
Cyfeiriad cartref y person, neu gyfeiriad cyswllt arall, rhif ffôn, rhif cyflunydd a chyfeiriad post electronig.
8 
Rhif yswiriant gwladol y person.
9 

(1) Os yw'n hysbys, pan yw'r person yn cael ei gyflogi fel athro neu athrawes —
(a) enw, cyfeiriad, rhifau ffôn a chyflunydd a chyfeiriad post electronig yr ysgol neu'r sefydliad lle mae'r person yn cael ei gyflogi i addysgu;
(b) manylion y math o ysgol neu sefydliad lle mae'r person yn cael ei gyflogi i addysgu ac enw'r awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol neu'r sefydliad os yw hynny'n gymwys;
(c) ai cyflogaeth amser-llawn neu ran-amser ydyw;
(ch) y swydd sydd gan y person; a
(d) y dyddiad yr ymgymerodd y person â'i swydd bresennol.
(2) Pan nad yw'r person yn cael ei gyflogi fel athro neu athrawes ar hyn o bryd, y dyddiad diwethaf pryd yr oedd yn cael ei gyflogi felly, a'r manylion ym mharagraffau (a) i (d) o is-baragraff (1) mewn perthynas â'i swydd addysgu ddiweddaraf.
10 
A yw'r person wedi ymddeol, yn cymryd saib gyrfa, yn ddi-waith neu yn cael ei gyflogi heblaw fel athro neu athrawes.
11 
Pan fo gan y person radd neu gymhwyster cyfatebol —
(a) y dyddiad y'i dyfarnwyd;
(b) y teitl;
(c) y sefydliad a'i dyfarnodd;
(ch) dosbarth y radd neu'r cymhwyster; a
(d) y pwnc.
12 
Y dyddiad yr enillodd y person gymhwyster athro neu athrawes.
13 
Y dyddiad yr ymgymerodd y person â'i swydd gyntaf fel athro neu athrawes gymwysedig.
14 
Pan yw'r person wedi cwblhau cwrs hyfforddiant cychwynnol i athrawon neu athrawesau yn llwyddiannus —
(a) enw'r sefydliad a ddarparodd y cwrs;
(b) teitl neu ddisgrifiad y cwrs;
(c) y pwnc neu'r pynciau a astudiwyd gan y person;
(ch) oedrannau'r disgyblion y bwriadwyd y cwrs i baratoi'r person i'w haddysgu; a
(d) dyddiad dechrau a chwblhau'r cwrs.
15 
Pan enillodd y person gymhwyster athro neu athrawes gymwysedig heblaw drwy gwblhau cwrs hyfforddiant cychwynol i athrawon ac athrawesau yn llwyddiannus —
(a) y math o raglen hyfforddi a gwblhawyd;
(b) enw'r ysgol neu'r sefydliad lle gwnaed yr ymarfer addysgu; ac
(c) dyddiad cwblhau'r rhaglen hyfforddi.
16 
Os ydynt yn hysbys,
(a) manylion unrhyw gymhwyster sydd gan y person ar gyfer addysgu'r rhai y mae ganddynt nam ar eu golwg neu eu clyw, fel y cyfeirir ato yn rheoliad 11, 12 neu 13 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999;
(b) os dyfarnwyd y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth i'r person, nodyn i ddweud hynny a dyddiad y dyfarniad;
(c) manylion unrhyw gymhwyster proffesiynol neu academaidd arall sydd gan y person; ac
(ch) os yw'r athro neu'r athrawes yn gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, nodyn i ddweud hynny.
17 
Os yw'n hysbys —
(a) os yw'r person yn athro neu athrawes sydd wedi croesi'r trothwy, nodyn i ddweud hynny, y dyddiad y croesodd y person y trothwy ac enw'r ysgol lle'r oedd y person yn cael ei gyflogi pan groesodd y trothwy;
(b) os athro neu athrawes uwch-fedrau yw'r person, nodyn i ddweud hynny, y dyddiad yr ardystiwyd y person yn athro neu'n athrawes uwch-fedrau ac enw'r ysgol lle'r oedd y person yn cael ei gyflogi pan gafodd ei ardystio yn athro neu'n athrawes uwch-fedrau;
(c) os athro neu athrawes cynllun carlam yw'r person, nodyn i ddweud hynny, y dyddiad yr ymunodd y person â'r cynllun carlam, a'r ysgol lle'r oedd y person yn cael ei gyflogi pan ymunodd â'r cynllun carlam.
18 

(1) Pan yw'r person wedi bwrw cyfnod ymsefydlu neu ran o gyfnod ymsefydlu, boed yng Nghymru neu Loegr, —
(a) enw'r corff priodol (o fewn ystyr “appropriate body” yn adran 19 o Ddeddf 1998);
(b) y dyddiad y dechreuodd y person y cyfnod ymsefydlu;
(c) os yw'n gymwys, nodyn i ddweud bod y person wedi cwblhau'r cyfnod ymsefydlu'n llwyddiannus, a dyddiad ei gwblhau;
(ch) os yw'n gymwys, nodyn i ddweud bod y person wedi methu â chwblhau'r cyfnod ymsefydlu'n llwyddiannus;
(d) os yw'n gymwys, nodyn i ddweud bod y cyfnod ymsefydlu wedi'i estyn ar gyfer y person, a chyfnod yr estyniad; a
(dd) os yw'n gymwys, nodyn i ddweud mai rhan yn unig o'r cyfnod ymsefydlu sydd wedi'i chwblhau gan y person, a'r cyfnod sydd wedi'i fwrw.
(2) Pan nad yw'r person wedi bwrw cyfnod ymsefydlu,
(a) a yw'r person yn esempt rhag y gofyniad i fwrw cyfnod ymsefydlu, a'r rheswm dros yr esemptiad; neu
(b) os nad oedd yn ofynnol bwrw cyfnod ymsefydlu ar yr adeg berthnasol, datganiad o'r ffaith honno.
19 
Os yw'n gymwys, nodyn i ddweud bod y person wedi methu cyfnod prawf, ac a yw'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol wedi cydsynio i'r person gael ei gyflogi fel athro neu athrawes o dan reoliadau a wnaed o dan adran 218(1) a (2) o Ddeddf 1988.
20 
Pan yw'r person yn athro neu'n athrawes gymwysedig sy'n anghymwys i gael ei gofrestru yn unol ag adran 3(3) o Ddeddf 1998 a rheoliadau o dan adran 4 ohoni, manylion y cyfarwyddyd, y gorchymyn disgyblu neu'r gwaharddiad arall y mae'r person yn anghymwys i'w gofrestru o'i herwydd.
21 
Pan yw enw'r person wedi'i dynnu oddi ar y Gofrestr, manylion ar ba sail y cafodd enw'r person ei dynnu oddi ar y Gofrestr.
22 
Telerau unrhyw gyfyngiad neu fanylion unrhyw waharddiad sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r person o ganlyniad i gyfarwyddyd a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol yn rhinwedd adran 218(6) o Ddeddf 1988.
23 
Telerau unrhyw gyfyngiad neu fanylion unrhyw waharddiad sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r person o ganlyniad i achos disgyblu a ddygwyd gan Gyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban.
24 
Os yw'n gymwys, nodyn bod y person wedi ymddeol o dan reoliad E4(4) o Reoliadau Pensiwn Athrawon 1997) (ymddeoliad afiechyd).