
2000 Rhif 1939 (Cy.137)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2000
Wedi'u gwneud 19 Gorffennaf 2000
Yn dod i rym 1 Medi 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 3(3), (4), (5) a (9) o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997 ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Medi 2000.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2000 neu wedyn.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(2), yn lle “£11,466” rhoddir “£11,718”.
(3) Yn lle rheoliad 2(3)(a) a (b) rhoddir —“
(a) £71 where the relevant income does not exceed £10,901; and
(b) £37 where that income exceeds £10,901 but does not exceed £11,718.”.
(4) Yn rheoliad 4 —
(a) ym mharagraff (3), yn lle “£10,683” rhoddir “£10,914”; a
(b) ym mharagraff (4) –
(i) yn lle “£10,683” rhoddir “£10,914”, a
(ii) yn lle “£10,504” rhoddir “£10,735”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
19 Gorffennaf 2000