
2000 Rhif 1887 (Cy. 133 )
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau Diwygio (Rhif 3) y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2000
Wedi'u gwneud 14 Gorffennaf 2000
Yn dod i rym 1 Awst 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 29 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio (Rhif 3) y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Awst 2000.
(2) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992
2 
Yn Atodlen 10 i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992, mewnosodir y cofnodion canlynol ymysg y cofnodion yn y mannau sy'n briodol yn ôl trefn yr wyddor –“Finasteride – 1 mg tablets;”“Propecia;”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
Jane Davidson
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Gorffennaf 2000