
2000 Rhif 1885 (Cy. 131 )
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) (Diwygio) (Cymru) 2000
Wedi'u gwneud 14 Gorffennaf 2000
Yn dod i rym 31 Gorffenaf 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(b),(c),(d),(e) ac (f), 17(1), 26, 45, 48(1) a 49(2) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 a pharagraffau 5(1), (2) a (3) a 6(1)(a) o Atodlen 1 iddi, ar ôl iddo ystyried y cyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno ac ar ôl iddo, yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, ymgynghori ac (i'r graddau na ellid bod wedi gwneud y Rheoliadau hyn o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990) gan ei fod wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) (Diwygio) (Cymru) 2000, byddant yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2000.
Diwygiad i Reoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) 1994
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) 1994) yn unol â pharagraff (2) isod i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.
(2) Rhoddir y paragraff canlynol yn lle paragraff 2(a) o Ran IX o Atodlen 2—“
2 

(a) The meat product to be used in the prepared meal shall as soon as it has been cooked —
(i) be mixed with the other ingredients as soon as practically possible; in that event the time during which the temperature of the meat products is between 10°C and 60°C shall not exceed two hours,
(ii) be refrigerated to 10°C or less before being mixed with the other ingredients, or
(iii) be cooled and mixed with the other ingredients in such a way (to be specified in the approval document for the establishment concerned) that the timing during which the temperature of the meat product is between 10°C and 60°C is kept to a minimum;”.
Diwygiad canlyniadol
3 
I'r graddau y mae'n gymwys i Gymru, diwygir Atodlen 2 i Reoliadau Cynhyrchion sy'n Tarddu o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 (Rheoliadau sy'n berthnasol i fasnachu o fewn i'r Gymuned) drwy fewnosod y cyfeiriad canlynol ar ddiwedd paragraff 5 —“The Meat Products (Hygiene) (Amendment) (Wales) Regulations 2000.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Jane Davidson
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Gorffennaf 2000