
2000 Rhif 1882 (Cy.129)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Pwnc Sylfaen (Diwygio) (Cymru) 2000
Wedi'i wneud 13 Gorffennaf 2000
Yn dod i rym 20 Gorffennaf 2000

Cyflawnwyd y gofynion a nodir yn Atodlen 1.

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 354(6) o Ddeddf Addysg 1996 ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol y gosodwyd drafft ohono gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, a chymeradwywyd ef drwy benderfyniad:
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pwnc Sylfaen (Diwygio) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 20 Gorffennaf 2000.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 Ystyr “yr Awdurdod” (“the Authority”) yw Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru);
 Ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru; ac
 Ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg 1996.
Diwygio
2 
Ac eithrio i'r graddau y datganwyd y byddant yn cael effaith yn Lloegr yn unig, bydd i'r diwygiadau i adrannau 354 a 580 o'r Ddeddf fel a nodwyd yng Ngorchymyn Pynciau Craidd (Diwygio) (Lloegr) 2000h), effaith yng Nghymru yn ddarostyngedig i'r diwygiadau pellach a nodir yn erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn.
3 
Mae'r diwygiadau pellach y cyfeirir atynt yn erthygl 2 fel a ganlyn —
(a) yn is-adran (4) fel y'i hamnewidwyd, yn lle paragraff (b) rhoddir –“
(b) in relation to schools in Wales, means a modern foreign language specified in an order of the National Assembly for Wales or, if the order so provides, any modern foreign language.”, a
(b) yn is-adran (5) fel y'i hamnewidwyd ar ôl “(4)(a)” mewnosoder “or (b)”.
4 
Gwelir testun adran 354(1) i (5) o'r Ddeddf fel y'i diwygiwyd gan y Gorchymyn y cyfeirir ato yn erthygl 2 ac fel y'i diwygir ymhellach gan y Gorchymyn hwn, yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Gorffennaf 2000
ATODLEN 1
Gofynion o dan adran 368 o Ddeddf Addysg 1996


 Adran 368(2)
Cyfeiriodd yr Ysgrifennydd Gwladol gynnig i'r Awdurdod gan roi cyfarwyddiadau amser ynglŷn â'r cyfnod yr oedd yr Awdurdod i roi adroddiad.
 Adran 368(3)
Hysbysodd yr Awdurdod y cynnig i'r cyrff a'r personau y cyfeirir atynt yn adran 368(3) o Ddeddf Addysg 1996 a rhoi cyfle rhesymol iddynt gyflwyno tystiolaeth a sylwadau ar y materion a oedd yn codi.
 Adran 368(5)
Cyflwynodd yr Awdurdod ei adroddiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
 Adran 368(5)
Trefnodd yr Awdurdod gyhoeddi'r adroddiad.
 Adran 368(6) a (7)
Cyhoeddwyd drafft o'r Gorchymyn a'r ddogfen gysylltiedig a chaniatawyd cyfnod o fis ar gyfer cyflwyno tystiolaeth a sylwadau ynglŷn â materion a oedd yn codi.
 Adran 368(6) a (7)
Anfonwyd copi o'r Gorchymyn drafft a'r ddogfen gysylltiedig i'r Awdurdod ac at bob un person yr ymgynghorodd yr Awdurdod â hwy a chaniatawyd cyfnod o fis ar gyfer cyflwyno tystiolaeth a sylwadau ynglŷn â marterion a oedd yn codi.

ATODLEN 2
Testun adran 354(1) i (5) y Ddeddf fel y'i diwygiwyd
ERTHYGL 4

“
(1) The following are the core subjects —
(a) mathematics;
(b) English;
(c) science; and
(d) in relation to schools in Wales which are Welsh-speaking schools,Welsh.
(2) In relation to schools in England, the following are the other foundation subjects —
(a) technology;
(b) physical education;
(c) in relation to the first, second and third key stages —
(i) history;
(ii) geography;
(iii) art and design;
(iv) music;
(d) in relation to the third and fourth key stages —
(i) citizenship;
(ii) a modern foreign language.
(3) In relation to schools in Wales, the following are the other foundation subjects —
(a) physical education;
(b) Welsh, if the school is not a Welsh-speaking school;
(c) in relation to the first, second and third key stages —
(i) history;
(ii) geography;
(iii) art;
(iv) music;
(v) technology;
(d) in relation to the third key stage, a modern foreign language.
(4) “Modern foreign language” —
(a) in relation to schools in England, means a modern foreign language specified in an order of the Secretary of State, or, if the order so provides, any modern foreign language; and
(b) in relation to schools in Wales, means a modern foreign language specified in an order of the National Assembly for Wales, or, if the order so provides, any modern foreign language.
(5) An order under subsection (4)(a) or (b) may —
(a) specify circumstances in which a language is not to be treated as a foundation subject;
(b) provide for the determination under the order of any question arising as to whether a particular language is a modern foreign language.”.
