
2000 Rhif 1868 (Cy.127)
GWASANAETHAU CYMDEITHASOL, CYMRU
Rheoliadau Diwygio Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2000
Wedi'u gwneud 7 Gorffennaf 2000
Yn dod i rym 14 Gorffennaf 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 1(1) o Ddeddf Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) 1996, ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2000, a deuant i rym ar 14 Gorffennaf 2000.
(2) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) 1997
2 
Yn rheoliad 2 o Reoliadau Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) 1997 (personau y gellir gwneud taliadau uniongyrchol iddynt), hepgorir is baragraff (a) o baragraff (2).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998).
Jane Davidson
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
7 Gorffennaf 2000