
2000 Rhif 1710 (Cy.116)
TAI, CYMRU
Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflenni Cais) (Diwygio) (Cymru) 2000
Wedi'u gwneud 20 Mehefin 2000
Yn dod i rym yn unol â Rheoliad 1(1)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 132(4) a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 ac a freinir bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflenni Cais) (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym 14 diwrnod ar ol y dyddiad y'u gwneir.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygiadau
2 

(1) Diwygir y ffurflen a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) 1997 fel a bennir yn nhestun Saesneg yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
(2) Diwygir y ffurflen a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) (Ffurflen Gais Gymraeg) 1999) fel a bennir yn nhestun Cymraeg yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
3 
Ni fydd y Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â cheisiadau am grant a wnaed cyn 3 Ebrill 2000.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
20 Mehefin 2000
ATODLEN
DIWYGIADAU I'R FFURFLEN SY'N DWYN Y TEITL “CAIS AM GRANT ADLEOLI”
Rheoliad 2
1 
Ar ôl cwestiwn 4.23, mewnosodwch—
2 
Yng nghwestiwn 4.31
(a) ar ôl “Ysgoloriaethau ac addysgedau eraill etc: £ £”,mewnosodwch “Nodyn 46B”;
(b) ar ôl “Benthyciad myfyrwyr: £”, mewnosodwch “Nodyn 46C”
3 
Yng nghwestiwn 4.34 yn lle “Nodiadau 50 a 50A” rhowch “Nodiadau 50, 50A a 50B”.
4 
Yn y pennawd o flaen cwestiwn 4.36, ar ôl “grantiau myfyrwyr” mewnosodwch “neu fenthyciadau myfyrwyr”, ac yng nghwestiwn 4.36, ar ôl “grant myfyriwr” mewnosodwch “neu fenthyciad myfyriwr”.
5 
Ar ddiwedd nodyn 30, ychwanegwch:“Dylai tâl gros gynnwys hefyd daleb ddi-arian a gymerwyd i ystyriaeth wrth gyfrifo'ch enillion yn unol â rheoliad 18(22) i (25) o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Cyfraniadau) 1979.”.
6 
Ar ddiwedd nodiadau 31 a 32 ychwanegwch —“Byddwch cystal â chynnwys swm eich pensiwn p'un a delir ef i chi neu i berson arall. Nid oes rhaid i chi gynnwys swm eich pensiwn lle telir y cyfan ohono i'ch ymddiriedolwr mewn methdaliad neu i rywun arall ar ran eich credydwyr ar yr amod nad ydych chi neu aelod o'ch teulu yn cael unrhyw incwm ar wahân i'r taliad hwnnw.”.
7 
Ar ôl nodyn 34, mewnosodwch —“
34A 
Os nad ydych chi neu'ch partner yn gwybod a oes gennych hawl i gael y lleiafswm cyflog gwladol am unrhyw swydd, llenwch weddill y ffurflen a gofyn wedyn i Adran Dai y Cyngor pan fyddwch yn anfon eich cais i mewn.”.
8 
Yn nodyn 45, ar ôl “Groes George” mewnosodwch—“ndash;lwfans cynhaliaeth addysgol sy'n daladwy yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 518 o Ddeddf Addysg 1996 (talu costau ysgol; rhoi ysgoloriaethau etc.) neu unrhyw swm mewn perthynas â chwrs astudiaeth a ddilynir gan blentyn neu berson ifanc sy'n daladwy yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 518 o Ddeddf Addysg 1996, adran 49 o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980 (pŵer i gynorthwyo personau i fanteisio ar gyfleusterau addysgol) neu adran 12(2)(c) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (Yr Alban) 1992 (darparu cymorth ariannol i fyfyrwyr).”.
9 
Ar ôl nodyn 46A, mewnosodwch —“
46B 
Peidiwch â chynnwys dyfarniad chwaraeon ac eithrio i'r graddau iddo gael ei wneud ar gyfer talu eich costau, neu gostau eich teulu, ar gyfer bwyd, dillad neu esgidiau cyffredin, tanwydd neu rent cartref, neu ar gyfer unrhyw dreth gyngor neu daliadau dŵ r yr ydych chi neu y mae aelod arall o'ch teulu yn atebol amdanynt.
 Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw daliadau am fitaminau, mwynau neu unrhyw ychwanegiadau deietegol arbennig a fwriedir i wella'ch perfformiad yn y gamp y cafodd y dyfarniad ei wneud ar ei chyfer.
 Nid oes angen ychwaith i chi gynnwys unrhyw daliadau a wnaed am wisg ysgol neu ddillad neu esgidiau sydd i'w defnyddio ar gyfer gweithgareddau chwaraeon yn unig.
46C 
Dylech roi mwyafswm y benthyciad myfyriwr y gallech fod wedi'i gael, lle na chawsoch fenthyciad myfyriwr neu lle na chawsoch y mwyafswm.”.
10 
Ar ôl nodyn 50A, mewnosodwch —“
50B 
Peidiwch â chynnwys dyfarniad chwaraeon a gawsoch lai na 26 wythnos yn ôl ac eithrio i'r graddau ei fod wedi'i wneud i dalu eich costau, neu gostau eich teulu, am fwyd, dillad neu esgidiau cyffredin, tanwydd neu rent cartref, neu unrhyw dreth gyngor neu daliadau dŵ r yr ydych chi neu y mae aelod arall o'ch teulu yn atebol amdanynt.
 Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw daliadau am fitaminau, mwynau neu unrhyw ychwanegiadau deietegol arbennig a fwriedir i wella'ch perfformiad yn y gamp y cafodd y dyfarniad ei wneud ar ei chyfer.
 Nid oes angen ychwaith i chi gynnwys unrhyw daliadau a wnaed am wisg ysgol neu ddillad neu esgidiau sydd i'w defnyddio ar gyfer gweithgareddau chwaraeon yn unig.”.
11 
Yn nodyn 52, ar ôl “grant y myfyriwr” mewnosodwch “neu fenthyciad y myfyriwr”.