
2000 Rhif 1707 (Cy. 114)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) Diwygio (Cymru) 2000
Wedi'u gwneud 21 Mehefin 2000
Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 29, 29B a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 a'r holl bwerau eraill sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw:—
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) Diwygio (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2000.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992.
(3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio'r prif Reoliadau
2 
Ar ddiwedd rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (Dehongli) mewnosodir y paragraff canlynol—“
(5) In regulations 7 and 18E and Schedule 3 the amendments made by the National Health Service (General Medical Services) Amendment Regulations 2000  shall also have effect in Wales.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mehefin 2000