
2000 Rhif 1271 (Cy.97)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Llywodraeth Leol (Gwerth Gorau) (Adolygiadau a Chynlluniau Perfformiad) (Cymru) 2000
Wedi'i wneud 22 Mawrth 2000
Yn dod i rym 1 Ebrill 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 5(2) a (4), 6(2) a (3), 7(6) a 29(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Gwerth Gorau) (Adolygiadau a Chynlluniau Perfformiad) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “dangosydd perfformiad” (“performance indicator”) yw ffactor y mae'n rhaid cyfeirio ato i fesur perfformiad awdurdod gwerth gorau wrth iddo arfer swyddogaeth fel y'i pennir o bryd i'w gilydd naill ai gan orchymyn a wneir o dan adran 4(1)(a) neu gan awdurdod gwerth gorau yn unol â chanllawiau a roddir o dan adran 5(6)(a) o'r Ddeddf;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1999;
 ystyr “safon berfformiad” (“performance standard”) yw'r lefel isaf o wasanaeth a ddarperir sy'n dderbyniol ac y mae rhaid i awdurdod gwerth gorau ei chyrraedd wrth arfer swyddogaeth, a hynny'n cael ei fesur drwy gyfeirio at ddangosydd perfformiad ar gyfer y swyddogaeth honno, fel y'i pennir o bryd i'w gilydd gan orchymyn a wneir o dan adran 4(1)(b) o'r Ddeddf;
 ystyr “targed perfformiad” (“performance target”) yw'r lefel o berfformiad wrth arfer swyddogaeth y disgwylir i awdurdod gwerth gorau ei chyrraedd, dros gyfnod o flwyddyn o leiaf, a hynny'n cael ei fesur drwy gyfeirio at ddangosydd perfformiad mewn perthynas â'r swyddogaeth honno, fel y'i pennir o bryd i'w gilydd gan orchymyn a wneir o dan adrannau 5(6)(b) a (7)o'r Ddeddf.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru ac eithrio'r rhai a bennir yn adran 1(1)(d) ac (e) o'r Ddeddf.
Cyfnod yr adolygiadau gwerth gorau
2 
Rhaid i awdurdodau gwerth gorau gynnal adolygiad gwerth gorau o'u holl swyddogaethau erbyn 31 Mawrth 2005 a rhaid iddynt gynnal adolygiad gwerth gorau pellach o'u holl swyddogaethau erbyn diwedd pob cyfnod dilynol o bum mlynedd.
Cynnwys adolygiadau gwerth gorau
3 
Wrth gynnal adolygiad gwerth gorau, rhaid i awdurdod gwerth gorau:—
(a) ystyried a ddylai fod yn arfer y swyddogaeth;
(b) ystyried ar ba lefel ac ym mha ffordd y dylai fod yn arfer y swyddogaeth;
(c) ystyried ei amcanion mewn perthynas ag arfer y swyddogaeth;
(ch) asesu ei berfformiad wrth arfer y swyddogaeth drwy gyfeirio at unrhyw ddangosydd perfformiad a bennir ar gyfer y swyddogaeth;
(d) asesu cystadleurwydd ei berfformiad wrth arfer y swyddogaeth drwy gyfeirio at y ffordd y mae awdurdodau gwerth gorau eraill a busnesau masnachol a busnesau eraill, a chyrff yn y sector gwirfoddol, yn arfer yr un swyddogaeth, neu swyddogaethau tebyg;
(dd) ymgynghori ag awdurdodau gwerth gorau eraill, busnesau masnachol a busnesau eraill, a chyrff yn y sector gwirfoddol, ynghylch arfer y swyddogaeth;
(e) asesu ei lwyddiant o ran cyrraedd unrhyw safon berfformiad sy'n gymwys i'r swyddogaeth;
(f) asesu ei gynnydd tuag at gyrraedd unrhyw safon berfformiad berthnasol sydd wedi'i phennu ond nad yw'n gymwys eto;
(ff) asesu ei gynnydd tuag at gyrraedd unrhyw darged perfformiad perthnasol.
Cynnwys cynlluniau perfformiad gwerth gorau
4 
Rhaid i awdurdodau gwerth gorau gynnwys y materion canlynol yn eu cynlluniau perfformiad gwerth gorau—
(a) crynodeb o amcanion yr awdurdod mewn perthynas ag arfer ei swyddogaethau;
(b) crynodeb o unrhyw asesiad a wnaed gan yr awdurdod i ddarganfod ar ba lefel ac ym mha ffordd y mae'n arfer ei swyddogaethau;
(c) datganiad sy'n pennu'r cyfnod y mae'n ofynnol i'r awdurdod adolygu ei swyddogaethau ynddo o dan adran 5(2) o'r Ddeddf ac erthyglau 2 a 3 o'r Gorchymyn hwn;
(ch) datganiad sy'n dangos yr amserlen y mae'r awdurdod yn bwriadu ei dilyn wrth gynnal adolygiad gwerth gorau;
(d) datganiad sy'n pennu unrhyw ddangosyddion, safonau a thargedau perfformiad a bennwyd neu a osodwyd ynglŷn â swyddogaethau'r awdurdod;
(dd) crynodeb o asesiad yr awdurdod o'i berfformiad yn y flwyddyn ariannol flaenorol o ran dangosyddion perfformiad;
(e) cymhariaeth o berfformiad hwnnw â pherfformiad yr awdurdod yn y blynyddoedd ariannol blaenorol;
(f) cymhariaeth o berfformiad yr awdurdod fel y'i crynhowyd yn unol â pharagraff (dd) uchod, â pherfformiad awdurdodau gwerth gorau eraill yn y blynyddoedd ariannol blaenorol;
(ff) crynodeb o'i asesiad o'i lwyddiant o ran cyrraedd unrhyw safon berfformiad a oedd yn gymwys ar unrhyw adeg yn y flwyddyn ariannol flaenorol;
(g) crynodeb o'i asesiad o'i gynnydd tuag at gyrraedd unrhyw safon berfformiad a bennwyd ond nad yw'n gymwys eto;
(ng) crynodeb o'i asesiad o'i gynnydd tuag at gyrraedd unrhyw darged perfformiad;
(h) crynodeb o unrhyw gynllun gweithredu sydd i'w gyflawni yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynllun yn ymwneud â hi at ddibenion cyrraedd targed perfformiad;
(i) crynodeb o'r rhesymau dros bennu unrhyw darged perfformiad, a phenderfynu ar unrhyw gynllun gweithredu, mewn perthynas â swyddogaeth a adolygwyd o dan adran 5 o'r Ddeddf ac erthyglau 2 a 3 o'r Gorchymyn hwn, yn y flwyddyn ariannol flaenorol.
Y dyddiad ar gyfer cyhoeddi'r cynlluniau perfformiad gwerth gorau
5 
Rhaid i awdurdodau gwerth gorau gyhoeddi eu cynlluniau perfformiad ar gyfer blwyddyn ariannol erbyn 30 Mehefin o'r flwyddyn y mae'r cynlluniau yn berthnasol iddi.
Y dyddiad ar gyfer anfon copïau o adroddiadau archwilwyr
6 
Rhaid i gopïau o adroddiadau'r archwilwyr ynglŷn â chynlluniau gwerth gorau gael eu hanfon yn unol ag adran 7(5) o'r Ddeddf erbyn 31 Hydref o'r flwyddyn y mae'r cynlluniau yn berthnasol iddynt.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
22 Mawrth 2000