
2000 Rhif 1145 (Cy.81)
GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2000
Wedi'u gwneud 6 Ebrill 2000
Yn dod i rym 10 Ebrill 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 a phob pwer arall sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol yn y cyswllt hwnnw, ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru:–
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2000, a deuant i rym ar 10 Ebrill 2000.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Y swm y mae ei angen at anghenion personol
2 
Y swm y mae'n rhaid i awdurdod lleol ragdybio o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 y bydd ar berson ei angen at anghenion personol y person hwnnw fydd £15.45 yr wythnos.
Diddymu
3 
Mae Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) 1999, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, drwy hyn wedi'u diddymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Ebrill 2000