
2000 Rhif 1142 (Cy.80)
GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2000
Wedi'i wneud 31 Mawrth 2000
Yn dod i rym 31 Mawrth 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan adran 9(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 a phob pŵ er arall sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol yn hyn o beth, ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, gyda chydsyniad y Trysorlys, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
–
(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 31 Mawrth 2000.
(2) Bydd y Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
Cyfalaf Cychwynnol Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol
2 
Cyfalaf cychwynnol ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a bennir yng ngholofn 1 o'r Atodlen fydd y swm a bennir gyferbyn â hi yng ngholofn 2 o'r Atodlen.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Mawrth 2000Cydsyniwn,
Clive Betts
Bob Ainsworth
Dau o Arglwydd Gomisiynwyr Trysorlys Ei Mawrhydi
31 Mawrth 2000
Adran 2


Colofn 1 Colofn 2
YMDDIRIEDOLAETH GIG CYFLAF CYCHWYNNOL
Bro Morgannwg £94,389,000
Cymunedol Caerdydd a'r Cylch £36,319,000
Sir Gaerfyrddin £42,707,000
Conwy a Sir Ddinbych £71,828,000
Gofal Iechyd Gwent £176,884,000
Gogledd-ddwyrain Cymru £75,685,000
Gogledd-orllewin Cymru £82,799,000
Pontypridd a Rhondda £89,435,000
Abertawe £141,884,000
Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Llandoche £150,199,000
Gwasanaethau Ambiwlans Cymru £19,901,000