
2000 Rhif 1079 (Cy. 72)
TAI, CYMRU (Cymru) 2000
Rheoliadau Digartrefedd (Cymru) 2000
Wedi'u gwneud 30 Mawrth 2000
Yn dod i rym 1 Ebrill 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 185(2) a (3), 194(6) a 198(4) o Ddeddf Tai 1996  ac a freiniwyd yn y Cynulliad Cenedlaethol bellach i'r graddau y mae'n arferadwy yng Nghymru .
Enw, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Digartrefedd (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Cymhwyster ar gyfer cymorth tai
2 
Bydd Rheoliadau 3, 4, 5 a 6 o Reoliadau Digartrefedd (Lloegr)  yn cael effaith yng Nghymru a bydd i'r mynegiadau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hynny yr un ystyr ag a roddir iddynt gan Reoliad 2 o'r Rheoliadau hynny.
Diddymu
3 
Diddymir y Rheoliadau canlynol mewn perthynas â Chymru –
(a) Rheoliadau Digartrefedd 1996 ;
(b) Rheoliadau 4 a 5 o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Diwygio) 1997;
(c) Rheoliad 3 o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Diwygio) (Rhif 2) 1997 
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 .
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Mawrth 2000