
2000 Rhif 1036 (Cy. 67)
TAI, CYMRU MEWNFUDO, CYMRU
Gorchymyn Personau sy'n Ddarostyngedig i Reolaeth Fewnfudo (Llety Awdurdodau Tai) (Cymru) 2000
Wedi'i wneud 30 Mawrth 2000
Yn dod i rym 1 Ebrill 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 118 a 166(3) o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 ac a freiniwyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Personau sy'n Ddarostyngedig i Reolaeth Fewnfudo (Llety Awdurdodau Tai) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
Llety awdurdodau tai
2 
The classes of persons specified in Articles 3 and 4 of the Persons subject to Immigration Control (Housing Authority Accommodation and Homelessness) Order 2000 are specified for the purposes of Section 118(1) of the Immigration and Asylum Act 1999 in relation to Wales and expressions used in those Articles have the meaning given to them by Article 2 of that Order.
Diddymiad
3 
Mae Gorchymyn Llety Tai (Personau sy'n Ddarostyngedig i Reolaeth Fewnfudo) (Diwygio) (Cymru) 1999 wedi'i ddiddymu ac mae'r gorchmynion a bennir ym mharagraffau (a), (b) ac (c) o Erthygl 10 o Orchymyn Personau sy'n Ddarostyngedig i Reolaeth Ymfudo (Llety Awdurdodau Tai a Digartrefedd) 2000 wedi'u diddymu mewn perthynas â Chymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Mawrth 2000