Gwnaed yr Offeryn Statudol hwn o ganlyniad i ddiffygion yn O.S. 1999/1522 ac fe'i cyflwynir yn ddi-dâl i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.
2000 Rhif 1025 (Cy. 61)
TRETH GYNGOR, CYMRU
Gorchymyn Treth Gyngor (Anheddau Esempt) (Diwygio) (Cymru) 2000
Wedi'i wneud 31 Mawrth 2000
Yn dod i rym 1 Ebrill 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 4 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, ac a freiniwyd ynddo bellach i'r graddau eu bod yn arferadwy yng Nghymru:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Treth Gyngor (Anheddau Esempt) (Diwygio) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.
Anheddau sy'n cael eu trwsio neu'u newid
2 
Yn erthygl 3 o Orchymyn Treth Gyngor (Anheddau Esempt) 1992 yn lle Dosbarth A rhodder“
Class A:

(1) A dwelling which satisfies the requirement set out in paragraph (2) but which has not been such a dwelling for a continuous period of twelve months or more ending immediately before the day in question;
(2) the requirement referred to in paragraph (1) is that the dwelling is vacant and –
(a) requires or is undergoing major repair work to render it habitable, or
(b) is undergoing structural alteration, or
(c) has undergone either major repair work to render it habitable or structural alteration and fewer than six months have elapsed since the date on which the work was substantially completed and the dwelling has remained vacant continuously since that date;
(3) for the purposes of paragraph (2) above “major repair work” includes structural repair work;”.
Diddymu
3 
Diddymir Gorchymyn Treth Gyngor (Anheddau Esempt) (Diwygio) (Rhif 2) 1999 mewn perthynas â Chymru.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
31 Mawrth 2000