
2000 Rhif 1024 (Cy. 60)
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
Rheoliadau Treth Gyngor (Atebolrwydd Perchnogion i Dalu) (Diwygio) (Cymru) 2000
Wedi'u gwneud 31 Mawrth 2000
Yn dod i rym 3 Ebrill 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 8(1) ac 113(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau eu bod yn arferadwy yng Nghymru.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Gyngor (Atebolrwydd Perchnogion i Dalu) (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 3 Ebrill 2000.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.
Atebolrwydd Perchnogion i Dalu – ceiswyr lloches
2 
Ar ôl y disgrifiad o Ddosbarth E yn rheoliad 2 o Reoliadau Treth Gyngor (Atebolrwydd Perchnogion i Dalu) 1992 mewnosodwch y canlynol –“
Asylum Seekers
Class F a dwelling provided to an asylum seeker under, or under arrangements made under, section 95 of the Immigration and Asylum Act 1999.”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
31 Mawrth 2000