
1999 Rhif 3450 (Cy. 48)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) (Diddymu Rhif 2) 1999
Wedi'i wneud 15 Rhagfyr 1999
Yn dod i rym 1 Ebrill 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan adran 126(3) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 ac adran 5(1), a pharagraff 29(1) o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 a phob pŵer arall sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol yn y cyswllt hwnnw ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod yn barnu ei bod yn briodol gwneud y Gorchymyn hwn er lles y gwasanaeth iechyd, ac ar ôl cwblhau'r ymgynghoriad a ragnodwyd o dan baragraff 29(3) o Atodlen 2 i'r Ddeddf olaf:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) (Diddymu Rhif 2) 1999 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000.
Diddymu Ymddiriedolaethau NHS
2 

(1) Diddymir drwy hyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Llandoche ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymunedol Caerdydd a'r Cylch.
(2) Diddymir drwy hyn y Gorchmynion a bennir yng ngholofn (1) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
Dafydd Elis Thomas
Y Llywydd
15 Rhagfyr 1999
ATODLEN
ORCHMYNION A DDIDDYMIR
ERTHYGL 2(2)


 Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Llandoche (Sefydlu) 1999 (O.S. 1999/1119)
 Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymunedol Caerdydd a'r Cylch (Sefydlu) 1999 (O.S. 1999/1118)
