
1999 Rhif 3185 (Cy. 43)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) (Diwygio) 1999
Wedi'u gwneud 28 Hydref 1999
Yn dod i rym 29 Hydref 1999
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1(5) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Bellach 1998 a pharagraff 3 o Atodlen 1 iddi ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) (Diwygio) 1999 a deuant i rym ar 29 Hydref 1999.
Diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) 1999
2 
Diwygir Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) 1999 yn unol â rheoliadau 3, 4, 5 a 6 isod.
3 
Ym mharagraff (1) o reoliad 2 —
(a) hepgorer y diffiniadau o “primary school”, “secondary school” a “special school”;
(b) ar ôl y diffiniad o “the Council” mewnosoder —“
 “junior pupils” means children who have not attained the age of 12;”;
(c) ar ôl y diffiniad o “members” mewnosoder —“
 “senior pupils” means persons who have attained the age of 12.”
4 
Rhodder y canlynol yn lle paragraff (2) o reoliad 2 —“
(2) In regulations 4 and 9 references to “teachers” shall only include a person who
(a) on and after the date of establishment of a register of teachers under section 3 of the 1998 Act, is a registered teacher; and
(b) before that date, is a qualified teacher within the meaning of section 218(2) of the 1988 Act.”
5 
Rhodder y canlynol yn lle rheoliad 4 —“
4 
The elected members shall comprise —
(a) four teachers of junior pupils;
(b) four teachers of senior pupils;
(c) four head or deputy head teachers.”
6 
Yn rheoliad 9, ar ôl y gair “Council?” mewnosoder y geiriau “are teachers who”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1988
Dafydd Elis Thomas
Y Llywydd,Cynulliad Cenedlaethol Cymru
28 Hydref 1999