
1999 Rhif 2935 (Cy.27)
TRETH GYNGOR, CYMRU
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) (Cymru) (Diwygio) 1999
Wedi'u gwneud 29 Hydref 1999
Yn dod i rym 31 Hydref 1999
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 33(5) a (6), 34(4), 44(5) a (6), 45(4) a (5), 48(5) a (6), ac 113(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac a freiniwyd ynddo bellach, a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw:
Enwi, cychwyn a chwmpas
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) (Cymru) (Diwygio) 1999 a deuant i rym ar 31 Hydref 1999.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.
Diwygio'r Rheoliadau
2 
Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) (Cymru) 1995 fel a ganlyn.
(1) Yn Rheoliad 4(3)(a), ar ôl y gair “dwelling”, mewnosoder “which is listed in a valuation band other than valuation band A”.
(2) Yn Rheoliad 5(2), ar ôl y geiriau “exempt on that day”, ychwaneger“and, in the case of valuation band A and for a financial year beginning on or after 1 April 2000, by deducting the number calculated by applying the formula–HH6where–
 HH is the authority’s estimate of the number of dwellings listed in band A (excluding dwellings which are to be treated as listed in that band by virtue of the provisions of Regulation 4(3) where the person who is liable to pay council tax in respect of the dwelling is liable to pay a reduced amount pursuant to the Council Tax (Reductions for Disabilities) Regulations 1992).”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Hydref 1999