
1999 Rhif 2893 (Cy.26)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Addysg (Apelau Derbyniadau Ysgol: Cod Ymarfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru) (Diwrnod Penodedig) 1999
Wedi'i wneud 31 Awst 1999
Yn dod i rym 1 Medi 1999
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 85(5) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad.
Enwi
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Apelau Derbyniadau Ysgol: Cod Ymarfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru) (Diwrnod Penodedig) 1999.
Diwrnod Penodedig
2 
Pennir drwy hyn 1 Medi 1999 fel y dyddiad y daw “Apelau Derbyniadau Ysgol: Cod Ymarfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru” a gyhoeddir yn unol ag adran 84 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ar 20 Awst 1999 i rym.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
Dafydd Elis Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
31 Awst 1999