
1999 Rhif 2841 (Cy.21)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) Diwygio (Cymru) 1999
Wedi'u gwneud 5 Hydref 1999
Yn dod i rym 5 Hydref 1999
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan adrannau 38(1), (3), (4) a (6), 39, 78, 126(4) a 128(1) a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 a phob p*wcirc;er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru:
Enwi, cychwyn, dehongli a hyd a lled
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 5 Hydref 1999.
(2) Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “Rheoliadau 1997” yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997;
 ystyr “Rheoliadau 1986” yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986;
 ystyr “Rheoliadau 1999” yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) 1999 a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) 1999.
(3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.
Diwygio Rheoliadau 1997
2 
—Ar ddiwedd rheoliad 1 o Reoliadau 1997 mewnosoder y paragraff canlynol —“
(5) In respect of paragraph (2) of this regulation and regulation 8 the amendments made by the National Health Service (Optical Charges and Payments) and (General Ophthalmic Services) Regulations 1999 shall also have effect in Wales.”.
Diwygio Rheoliadau 1986
3 
—Ar ddiwedd rheoliad 2 o Reoliadau 1986 mewnosoder y paragraff canlynol —“
(3) In respect of paragraph (1) of this regulation and regulation 13 the amendments made by the National Health Service (Optical Charges and Payments) and (General Ophthalmic Services) Regulations 1999 and the National Health Service (General Ophthalmic Services) (Amendment) Regulations 1999 shall also have effect in Wales.”.
Darpariaeth drosiannol
4 

(1) Lle'r oedd person, neu aelod o'i deulu, yn union cyn 5 Hydref 1999 yn cael lwfans gweithio i'r anabl neu gredyd teulu, fel y bo'r achos, ni fydd y diwygiadau a wneir gan Reoliadau 1999, fel y maent yn cael effaith yng Nghymru yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, yn cael effaith yn ei achos ef cyhyd a'i fod ef, neu aelod o'i deulu, fel y bo'r achos, yn parhau i gael lwfans gweithio i'r anabl neu gredyd teulu.
(2) Yn y rheoliad hwn, bydd “lwfans gweithio i'r anabl” a “chredyd teulu” yn parhau gyda'r ystyr a roddir i “disability working allowance” a “family credit” yn Rheoliadau 1997 neu Reoliadau 1986, fel y bo'r achos, yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Hydref 1999