
1999 Rhif 2840 (Cy.20)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Costau Teithio a Dileu Taliadau) (Diwygio) (Cymru) 1999
Wedi'u gwneud 5 Hydref 1999
Yn dod i rym 5 Hydref 1999
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan adrannau 83A, 126(4) a 128(1) o Ddeddf Gwasnaeth Iechyd Gwladol 1977 a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru:
Enwi, cychwyn, dehongli a hyd a lled
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Costau Teithio a Dileu Taliadau) (Diwygio) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 5 Hydref 1999.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Costau Teithio a Dileu Taliadau) 1988.
(3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.
Diwygio'r prif Reoliadau
2 
Ar ddiwedd rheoliad 2 o'r prif Reoliadau mewnosodir y paragraff canlynol —“
(5) In respect of regulations 2 and 4 and Schedule 1 the amendments made by the National Health Service (Travelling Expenses and Remission of Charges) Amendment Regulations 1999 shall also have effect in Wales.”.
Darpariaeth Drosiannol
3 

(1) Lle'r oedd hawl gan berson yn union cyn 5ed Hydref 1999 i gael dilead o daliadau neu daliad o gostau teithio yn rhinwedd rheoliad 4(c) neu (d) o'r prif Reoliadau (dilead neu daliad wrth gyfeirio at hawl i gael gredyd teulu), neu yn rhinwedd rheoliad 4(g) neu (h) o'r prif Reoliadau (dileu neu dalu wrth gyfeirio at hawl i gael lwfans gweithio i'r anabl), bydd yr hawl honno'n parhau tra bydd credyd teulu neu lwfans gweithio i'r anabl, fel y bo'r achos, yn parhau i gael ei dalu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
Dafydd Elis Thomas
Y Llywydd
5 Hydref 1999