
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 6) 2025.
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 i rym ar 1 Medi 2025—
(a) Rhan 4 o Atodlen 3 (asesu addysg uwch: corff dynodedig);
(b) paragraff 13(1), (2)(b) a (3) o Atodlen 4 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol).
3 
Daw adran 87(5) (polisi ar bwerau cyllido) o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 i rym ar 1 Medi 2025 i’r graddau y mae’n ymwneud ag adran 89 (cymorth ariannol ar gyfer cyrsiau addysg uwch a bennir mewn rheoliadau) o’r Ddeddf honno.
Lynne Neagle
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
18 Awst 2025